Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau gwelliannau ar ran pobl ein gwlad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fis Medi diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb, sy'n nodi ei rhaglen lywodraethu uchelgeisiol a'i blaenoriaethau ar gyfer cyflawni ar ran pobl Cymru.

Nodwyd chwe blaenoriaeth trawslywodraethol: 

  • y blynyddoedd cynnar
  • tai
  • gofal cymdeithasol
  • gwell iechyd meddwl
  • sgiliau a chyflogadwyedd
  • datgarboneiddio. 

Gyda'i gilydd, mae'r chwe maes hwn yn adlewyrchu’r gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl drwy gydol eu hoes ac, o ddarparu’r cymorth cywir yma, gellid gwella’u bywydau yn ddramatig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol, gan nodi'r cynnydd tuag at gyflawni ei hymrwymiadau i bobl Cymru.

Un o'r ymrwymiadau hynny yw darparu 20,000 yn fwy o dai fforddiadwy, targed y mae Llywodraeth Cymru wedi symud cryn dipyn yn agosach ato dros y flwyddyn ddiwethaf.

Er mwyn clywed mwy am y ffordd y mae cymorth Llywodraeth Cymru i adeiladwyr tai wedi helpu gyda'r targed uchelgeisiol hwn, bu'r Prif Weinidog yn ymweld â safle Lewis Homes, Tonyrefail. Mae'r safle'n darparu cymysgedd o dai ar gyfer y farchnad, llawer ohonynt gyda chymorth ein cynllun Cymorth i Brynu - Cymru ac yn dai fforddiadwy.

Mae Lewis Homes wedi manteisio ar fenthyciadau Banc Datblygu Cymru drwy'r Gronfa Datblygu Eiddo, sydd wedi caniatáu i'r cwmni ehangu ei gynlluniau i adeiladu tai newydd ar draws nifer o safleoedd, a chynyddu ei weithlu.

Wrth siarad yn ystod ei ymweliad, dywedodd y Prif Weinidog:

"Mae Lewis Homes yn enghraifft ardderchog o'r ffordd y mae'n hymrwymiad i gefnogi busnesau yn eu helpu i ehangu a dod â manteision ychwanegol i'n cymunedau, o greu swyddi i ddarparu gwell dewis o dai fforddiadwy ar draws Cymru."

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

"Drwy gydol fy nghyfnod fel Prif Weinidog, rydw i wedi bod yn agored am ein cynnydd fel llywodraeth. Rwy'n falch o ddweud nad ydyn ni erioed wedi ofni gwneud dewisiadau sy'n iawn ar gyfer pobl Cymru, hyd yn oed os yw hynny'n golygu gwneud yn wahanol i eraill.

"Rydyn ni wedi sicrhau gwelliannau er gwaethaf degawd o doriadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mewn cyfnod o gyni, rydyn ni'n cydnabod bod angen mwy o gymorth ar bobl nag erioed, ac o ganlyniad rydyn ni wedi gosod blaenoriaethau a fydd yn sicrhau gwelliannau ac yn effeithio'n uniongyrchol ar fywydau pobl heddiw, ac ar ben hynny yn gosod sylfeini ar gyfer manteision tymor hirach a fydd yn cael eu teimlo ymhell tu hwnt i dymor y llywodraeth hon."

Mae'r cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys:

  • Cronfa Triniaethau Newydd gwerth £80m, i ganiatáu i bawb yng Nghymru gael yr un mynediad cyflym at gyffuriau a thriniaethau newydd
  • blaenoriaethu gwariant ysgolion er mwyn aros ar y trywydd iawn i fuddsoddi £100 miliwn i wella perfformiad ysgolion
  • cynyddu'r swm o arian y gall pobl ei gadw cyn gorfod ariannu cost lawn gofal preswyl i £40,000
  • cynyddu'r gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl o £20 miliwn arall i bron £650 miliwn
  • toriadau treth i fusnesau bach drwy ein Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau’r Stryd Fawr.

Cyfarwyddwr Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, Ifan Glyn:

“Er mwyn adeiladu’r cartrefi sydd eu hangen ar ein cymunedau, mae’n hanfodol i gwmnïau bach o adeiladwyr tai gael cymorth priodol i ffynnu. Mae Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr wedi bod yn cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhai o’r ffrydiau cymorth hyn. Mae digon o waith i’w wneud o hyd, ond rydyn ni eisoes wedi gweld rhai ymyriadau cadarnhaol gan y Llywodraeth dros y blynyddoedd diwethaf.

“Un enghraifft o’r fath yw’r Gronfa Datblygu Eiddo, sy’n cael ei gweinyddu gan Fanc Datblygu Cymru. Roedd mynediad at gyllid yn rhwystr sylweddol i ddatblygwyr bach ar ôl y dirwasgiad wrth i’r benthycwyr traddodiadol stopio benthyca i gwmnïau adeiladu bach, i bob pwrpas. Roedd y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn achubiaeth i nifer, ac mae aelodau’r Ffederasiwn o bob cwr o Gymru wedi medru manteisio ar hynny i adeiladu cartrefi na fyddai wedi cael eu hadeiladu fel arall.”