Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i baratoi ar gyfer sioc economaidd Brexit heb gytundeb, fel y bydd Ken Skates, Gweinidog yr Economi yn ddweud wrth Weinidogion Llywodraeth y DU heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod cyfarfod gyda’r Gweinidog Busnesau Bach, Defnyddwyr a Chyfrifoldeb Corfforaethol, Kelly Tolhurst a’r Gweinidog Gwladol dros Ynni a Thwf Gwrydd, Claire Perry, bydd Gweinidog yr Economi hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth a buddsoddi newydd os yw economi Cymru i gael y gefnogaeth a’r cyfeiriad y mae ei angen wedi Brexit.  

Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:  

“Ni ddylem fod o dan unrhyw gam-argraff na fyddai Brexit heb gytundeb yn golygu heriau mawr i Economi Cymru. Rwyf wedi trafod â busnesau yng Nghymru, busnesau sy’n ystyried adleoli i Gymru, undebau, gweithwyr a buddsoddwyr ac mae’r neges wedi bod yn un glir iawn – byddai’r sioc economaidd a’r effaith ddilynol ar fuddsoddiad, gwaith a bywoliaeth yn sylweddol.  

“Er gwaethaf hyn, mae’r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb yn parhau.  Os bydd digwyddiadau yn lleihau’r risg hwn yn y dyddiau nesaf, maent yn anhebygol o gael gwared ar y posibilrwydd y gallai dim cytundeb ddigwydd o hyd yn yr wythnosau nesaf, ac rwy’n benderfynol bod Cymru mor barod ag y gall fod i fynd i’r afael â’r heriau hyn, a mynd i’r afael â’r anawsterau y gallai busnesau eu hwynebu cyn gynted â phosib.  

Mae pecyn Brexit “Ein Busnes Cymru”, sydd wedi’i weld bellach gan fusnesau Cymru dros 35,000 o weithiau, wedi ei groesawu gan y sector. Mae ein cronfa ymdopi â Brexit eisoes yn helpu busnesau o bob maint ledled Cymru i baratoi cystal â phosibl, a’r wythnos ddiwethaf cyhoeddais £121miliwn arall ar draws tair cronfa sydd wedi’i thargedu i helpu i sbarduno ein heconomi ymhellach, a sicrhau bod swyddi yn cael eu cadw yng Nghymru ble y bo’n bosibl.  Dyma rai o’r camau ymarferol yr ydym yn eu cymryd eisoes i gefnogi ein busnesau wrth iddynt gynllunio ar gyfer y dyfodol.  

“Ond mae’r cyfnod hwn yn un heriol a dim ond hyn a hyn y gallwn ei wneud ar ein pennau ein hunain. Dyna pam y mae mor bwysig inni barhau i gydweithio gyda’r gymuned fusnes a Llywodraeth y DU, dyna pam y byddaf yn chwilio am fwy o eglurder o ran addewidion Llywodraeth y DU wedi Brexit, a dyna pam yr wyf wedi cyfarfod gyda benthycwyr, banciau a buddsoddwyr preifat i sicrhau nad yw Cymru mewn sefyllfa o argyfwng.    

“Byddai dim cytundeb yn dod â heriau na welwyd erioed o’r blaen i economi Cymru, ond mae llawer o waith da yn cael ei wneud i sicrhau bod ein busnesau mor barod â phosib i fynd i’r afael â hwy