Mae Strategaeth newydd Cymru sy'n ymdrin â llifogydd ac erydu arfordirol yn nodi'r ffordd y byddwn yn helpu i leihau'r risgiau i gymunedau a busnesau ledled Cymru ac yn addasu i'r newid yn ein hinsawdd.
Cyhoeddwyd y Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru heddiw (dydd Mawrth 20 Hydref) gan Lesley Griffiths, sef Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Mae'r Strategaeth yn nodi ein polisïau hirdymor ar gyfer rheoli llifogydd, yn ogystal â'r mesurau y bydd sefydliadau megis Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol a chwmnïau dŵr yn eu rhoi ar waith dros y degawd nesaf i wella'r ffordd rydym yn cynllunio, yn paratoi ac yn addasu i newid yn yr hinsawdd dros y ganrif sydd i ddod.
Mae'r Strategaeth yn canolbwyntio ar fwy na'r gwaith o adeiladu amddiffynfeydd yn unig ac yn nodi bod yn rhaid inni reoli'r perygl o lifogydd a'r perygl arfordirol gan ddefnyddio amrywiaeth o ymyriadau a chamau gweithredu. Mae hefyd yn cydnabod bod llifogydd yn fater sy'n effeithio ar bob rhan o'n cymdeithas a bod angen defnyddio dull cyfunol er mwyn mynd i'r afael ag ef.
Mae'n amlinellu rhai o'r gwersi a ddysgwyd o'r llifogydd a welwyd ledled Cymru eleni, ac yn ystyried y gwaith a gwblhawyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf i fynd i'r afael â'r perygl o lifogydd.
Rhan allweddol o hyn yw sicrhau nad ydym yn gwneud camgymeriadau a allai arwain at fwy o berygl i genedlaethau'r dyfodol. Bydd y Strategaeth newydd yn helpu i atal hyn drwy gysylltu â'r canllawiau cynllunio newydd a gaiff eu cyhoeddi y flwyddyn nesaf, er mwyn sicrhau na fydd cymunedau a gaiff eu hadeiladu yn y dyfodol yn wynebu risg y gellir ei hosgoi.
Mae'r Strategaeth hefyd yn pwysleisio'r ffaith y gellir cyfleu risg yn well drwy alluogi cartrefi i ddeall eu risg eu hunain, ystyried sut mae angen iddynt gynllunio ar gyfer llifogydd a bod yn rhan o'r trafodaethau sy'n ymwneud â rheoli'r risgiau i'w cymuned o'r dechrau.
Bydd Map Llifogydd Cymru, a gaiff ei lansio heddiw, yn rhan o'r dull newydd o wella'r ffordd rydym yn trafod risg.
Bydd Map Llifogydd Cymru yn dod â’n holl fapiau o berygl llifogydd a risg o lifogydd arfordirol ynghyd mewn un lle, gan ddechrau gyda'r Asesiad Perygl Llifogydd ar gyfer Cymru (FRAW).
Am y tro cyntaf erioed, bydd hwn yn dangos y perygl o lifogydd o bob ffynhonnell ac yn cynnwys gwybodaeth am arfordiroedd ac asedau. Caiff y Mapiau FRAW eu diweddaru bob chwe mis fel y gall pobl weld sut mae ein cynlluniau llifogydd wedi lleihau'r perygl, gan helpu i leihau costau yswiriant pobl a rhoi tawelwch meddwl i'r cymunedau yr effeithir arnynt.
Bydd hyn yn cyd-fynd â Map Llifogydd newydd ar gyfer Cynllunio a chyngor cliriach ar gynllunio y flwyddyn nesaf, gan sicrhau y gall awdurdodau wneud penderfyniadau mwy hyddysg ar ddatblygu a bod ganddynt ddealltwriaeth well o'r risg.
Wrth lansio'r Strategaeth, dywedodd Ms Griffiths:
‘Cefais brofiad uniongyrchol o effaith ddinistriol y llifogydd a effeithiodd ar dros 3,000 o gartrefi a busnesau ledled y wlad. Gan fod y tebygolrwydd y byddwn yn gweld rhagor o’r digwyddiadau tywydd eithafol hyn yn cynyddu, mae angen inni gryfhau ein dull o reoli'r perygl o lifogydd a'r risg o lifogydd arfordirol a'i addasu er mwyn helpu i gadw pobl yn ddiogel.
Yn sgil hyn, rwy'n fwy penderfynol o atgyfnerthu ein hymrwymiadau o ran atal llifogydd, meithrin gwydnwch ac addasu i'r hinsawdd. Rwy'n awyddus i Gymru arwain y ffordd gyda'r gwaith hwn a chaiff hyn ei adlewyrchu yn ein Strategaeth Genedlaethol newydd.
Mae'r Strategaeth yn nodi sut y byddwn yn gwneud y penderfyniadau cywir wrth inni geisio diogelu pobl, cartrefi a busnesau rhag perygl cynyddol o lifogydd. Rydym yn gwneud newidiadau sylweddol er mwyn helpu i gyflymu ein proses gyflwyno a chyfleu risg yn well. Mae’r rhain yn cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer cynlluniau lliniaru a mapiau perygl llifogydd newydd.
Rydym eisoes yn gweld bod ein dulliau newydd yn dwyn ffrwyth. Y bwriad oedd cyflwyno’r gwelliannau a wnaed i'r Rhaglen Llifogydd ac Arfordiroedd ym mis Ebrill ar y cyd â'r Strategaeth Genedlaethol newydd, ond cawsant eu rhoi ar waith yn gynt er mwyn helpu i roi cymorth i gymunedau cyn gynted â phosibl ac i annog cynlluniau newydd a gwaith cynnal a chadw hanfodol lle y bo angen.
Ychwanegodd y Gweinidog:
Rwyf am i'r Strategaeth sbarduno trafodaeth am sut rydym yn rheoli'r perygl o lifogydd. Er bod ein darpariaeth wedi cynyddu fwy nag erioed yn y maes hwn, a'n bod wedi buddsoddi mwy o arian nag erioed o’r blaen, ni allwn atal pob achos o lifogydd. Rwyf hefyd yn cydnabod bod y Strategaeth hon yn cael ei lansio mewn cyfnod ansicr – yn sgil y pwysau sy’n deillio o COVID-19, a'n hymateb parhaus i'r llifogydd diweddar.
Felly, rwyf am sicrhau bod ein negeseuon yn glir a bod ein buddsoddiadau'n cael yr effaith fwyaf bosibl. Bydd hyn yn helpu pawb ledled Cymru i ddeall sut y gallant chwarae eu rhan i leihau'r risg dros y blynyddoedd i ddod.’’
Rhwng 2016 a 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £390miliwn mewn helpu i reoli'r perygl o lifogydd, gan leihau'r perygl i dros 45,000 o eiddo ledled Cymru.
Yn dilyn y llifogydd eleni, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi buddsoddi dros £4.4m mewn gwaith atgyweirio yn sgil llifogydd.
Mae'r newidiadau diweddar o ran cyllid yn cynnwys cymorth llawn i baratoi a dylunio cynlluniau llifogydd newydd, cynyddu cyfraddau grantiau ar gyfer adeiladu amddiffynfeydd arfordirol i 85% a chyflwyno rhaglen rheoli llifogydd naturiol newydd sy’n werth £2m.
Dyma'r Strategaeth Genedlaethol gyntaf i gynnwys deddfwriaeth Gymreig sy’n ymwneud â’r amgylchedd, llesiant a draenio cynaliadwy. Mae'r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol hefyd wedi cefnogi'r strategaeth, ac mae ei ymgynghoriadau wedi bod yn hollbwysig er mwyn helpu i lywio a chryfhau'r ddogfen.
Dywedodd Martin Buckle, Cadeirydd y Pwyllgor:
Dangosodd y llifogydd yn gynharach eleni fod yr argyfwng hinsawdd yn effeithio ar bobl gyffredin mewn cymunedau a busnesau ledled Cymru, a bod angen cryfhau ein gwydnwch ar unwaith.
Gan fod lefelau'r môr yn cynyddu, mae'r Strategaeth newydd hefyd yn pwysleisio bod angen blaenoriaethu cynlluniau a chamau gweithredu ar gyfer yr hirdymor mewn ardaloedd arfordirol, yn enwedig o ystyried pwysigrwydd yr arfordir i'n cymunedau, ein busnesau a'r amgylchedd.
Mae'r Strategaeth Genedlaethol newydd yn gam mawr ymlaen o ran darparu'r arweinyddiaeth sydd ei hangen i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Mae'r Pwyllgor yn benderfynol o chwarae rhan lawn wrth roi'r Strategaeth ar waith. Mae angen cynnal trafodaethau ehangach a pharhaus ledled Cymru am sut y gallwn ymateb i'r perygl o lifogydd, ac mae'r Strategaeth newydd yn sail ddelfrydol ar gyfer gwneud hyn.
Er ein bod yn croesawu'r ymrwymiad i gymryd camau cynnar, bydd angen i bob parti gydweithio er mwyn sicrhau y gellir rhoi rhaglen aml-flwyddyn effeithiol ar waith ar gyfer y tymor hwy.