Neidio i'r prif gynnwy

Lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun newydd i ostwng nifer y bobl sy’n smygu i 16% erbyn 2020 er mwyn i Gymru ddod yn genedl iachach a di-fwg.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Smygu sy'n cyfrannu fwyaf at y baich clefydau presennol yng Nghymru, gan achosi tua 5,450 o farwolaethau ac oddeutu £302m o wariant i’r GIG bob blwyddyn. 

Roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016/17 yn dangos bod 19% o oedolion yn smygu; lleihad sylweddol ar y 25% a nodwyd ar gyfer 2005/6. Roedd hyn yn rhagori ar darged Llywodraeth Cymru o leihau'r ganran o bobl a oedd yn smygu i 20% erbyn 2016. 

Bydd y Cynllun Gweithredu ar Reoli Tybaco yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed eisoes yn sgil deng mlynedd gyntaf y gwaharddiad ar smygu yng Nghymru. 

Mae'r camau gweithredu yn y cynllun newydd yn cynnwys:

  • Cyflwyno gwaharddiad statudol ar smygu ar diroedd ysbytai ac ysgolion, ar feysydd chwarae cyhoeddus, ac mewn lleoliadau gofal awyr agored i blant erbyn haf 2019
  • Helpu mwy o bobl i roi'r gorau i smygu drwy eu hannog i ddefnyddio'r gwasanaethau integredig perthnasol
  • Cryfhau'r llwybrau atgyfeirio at wasanaethau rhoi'r gorau i smygu, yn enwedig i grwpiau lle mae lefelau uchel o smygu.
Mae'r rhan fwyaf o smygwyr yng Nghymru (tua 6 allan o 10) yn awyddus i roi'r gorau iddi, ac mae ychydig dros 4 allan o 10 wedi rhoi cynnig ar wneud hynny yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae nifer mawr o'r bobl hyn yn gweithredu 'ar eu liwt eu hunain', ond dyma'r ffordd leiaf effeithiol o roi'r gorau iddi. Er mwyn gostwng lefelau smygu ymhlith oedolion ymhellach yng Nghymru, mae angen i fwy o smygwyr gael eu cymell i roi'r gorau iddi, a chael eu hannog i ddefnyddio gwasanaethau sydd eisoes ar gael i’w helpu.  

Dywedodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans:

“Fel rhan o'n cynllun ar gyfer sicrhau bod Cymru'n wlad iachach a mwy egnïol, rydyn ni'n awyddus i helpu cynifer o bobl â phosibl i roi'r gorau i smygu. 

“Nod Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco 2017-2020 yw gwneud y gwasanaethau rhoi'r gorau i smygu sy'n cael eu darparu gan weithwyr iechyd proffesiynol yn fwy hygyrch. Drwy leihau nifer y bobl sy'n smygu bydd nifer y bobl sy'n dod i gysylltiad â mwg ail law hefyd yn gostwng.

“Dw i'n falch ein bod yn arwain y ffordd o ran amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol drwy Ddeddf  Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, sy'n gwaharddi smygu ar feysydd chwarae ac ar diroedd ysgolion. Er mwyn parhau â'r newid rhyfeddol sydd wedi digwydd mewn agweddau at smygu yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, dw i'n awyddus i weld pawb yn dewis bywyd di-fwg.”   

Y llynedd, cafodd Bwrdd Strategol Rheoli Tybaco ei sefydlu o dan gadeiryddiaeth Prif Swyddog Meddygol Cymru, Frank Atherton, i oruchwylio'r gwaith o weithredu'r cynllun newydd a sicrhau ein bod yn cadw'r momentwm a bwrw'r targed o 16%. 

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru,  Frank Atherton:

“Bydd gostwng lefelau smygu yng Nghymru o fantais nid yn unig i iechyd y genedl, ond bydd hefyd yn helpu i leihau rhywfaint o'r pwysau sydd ar y GIG. 

“Y gwaith y mae'r Bwrdd Strategol a'i is-grwpiau wedi ei gyflawni o ran annog pobl i roi'r gorau i smygu neu eu hatal rhag dechrau, yn ogystal â lleihau'r nifer sy’n dod i gysylltiad â mwg, yw sail y Cynllun Gweithredu hwn. Rydyn ni'n ffyddiog y bydd y camau gweithredu sydd wedi eu nodi yn ein helpu i gyrraedd y targed ar gyfer lleihau canran y boblogaeth sy'n smygu i 16% erbyn 2020.”