Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi ymgyrch newydd i ddenu rhagor o fferyllwyr i Gymru, a £3.6m ychwanegol i hyfforddi rhagor ohonynt yma.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae fferyllwyr yn chwarae rhan gynyddol bwysig wrth ddarparu gofal iechyd, felly mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau bod gan Gymru weithlu cynaliadwy o fferyllwyr sydd wedi cael hyfforddiant priodol. 

Mae ymgyrch newydd gan Lywodraeth Cymru, a lansiwyd heddiw (Dydd Mercher, 17 Ebrill) yn hyrwyddo Cymru fel lleoliad 'dewis gorau' i fferyllwyr hyfforddi, gweithio a byw.

Law yn llaw â hyn, mae Mr Gething wedi cyhoeddi £3.6m o arian ychwanegol yn 2020/21 i drawsnewid y ffordd y bydd fferyllwyr yn cael eu hyfforddi yng Nghymru. Bydd yr arian, a fydd yn cynyddu i £4.9m yn ychwanegol erbyn 2023/24, yn bron dyblu'r nifer o lefydd hyfforddiant o tua 100 y flwyddyn yn awr, i 200 erbyn mis Awst 2023.

Am y tro cyntaf yn y DU, bydd pob unigolyn sy'n cael ei hyfforddi yn cael ei gyflogi a'i hyfforddi gan y GIG dim ots a ydynt yn cwblhau'r mwyafrif o'u hyfforddiant mewn fferyllfa yn y gymuned, yn yr ysbyty neu mewn practis meddyg teulu.  

Dywedodd Mr Gething:

"Mae fferyllwyr yn chwarae rhan gynyddol bwysig wrth ddarparu gofal iechyd yng Nghymru. Rydym wedi gwneud cynnydd mawr yng Nghymru, gyda fferyllwyr yn rhoi cyngor a thriniaeth, gan leihau'r baich ar ein meddygon teulu. 

Wrth i'r galw am eu sgiliau clinigol gynyddu, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr y gallwn hyfforddi digon o fferyllwyr i ddiwallu galw'r GIG yng Nghymru, ym mhob sector ymarfer fferylliaeth. Bydd yr agwedd unigryw ac arbennig hon at hyfforddi yn diwallu disgwyliadau cynyddol graddedigion fferylliaeth y DU ac anghenion tymor hir y GIG yng Nghymru. 

Ynghyd â'n hymgyrch farchnata newydd, mae'r buddsoddiad hwn yn anfon neges glir bod Cymru yn lle gwych i fferyllwyr hyfforddi, gweithio a byw ynddo."

Bydd yr ymgyrch Hyfforddi, Gweithio, Byw ar gyfer y DU gyfan, sydd hefyd yn cael ei lansio heddiw, yn canolbwyntio ar myfyrwyr fferylliaeth sydd wrthi yn penderfynu lle i ymgymryd â'u hyfforddiant cyn cofrestru. 

Mae'r ymgyrch yn tynnu sylw at fanteision hyfforddi yng Nghymru, lle mae lefelau bodlonrwydd hyfforddeion yn uchel.  Mae rhaglen hyfforddi cwbl amlsector gyntaf y DU ar gyfer fferyllwyr yn rhoi profiad i hyfforddeion yn yr ysbyty, mewn practis meddyg teulu ac yn y gymuned. Bydd yr ymgyrch hefyd yn hyrwyddo'r ystod eang o swyddi fferylliaeth sydd ar gael iddynt barhau â'u gyrfa yng Nghymru. 

Dywedodd Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Cymru:

"Rydyn ni eisiau i hyfforddeion wybod bod Cymru yn lle delfrydol i hyfforddi, gyda chyfraddau pasio cyson uchel yn yr arholiadau cyn cofrestru ac rydym eisiau denu graddedigion fferylliaeth o'r safon uchaf. Gall fferyllwyr sy'n dewis dod i Gymru fanteisio o system gofal iechyd integredig, sy'n hwyluso rhannu gwybodaeth ac arloesi ar draws ystod eang o leoliadau, gan ein galluogi i roi'r gofal gorau posibl i'n cleifion.

"Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru hefyd yn manteisio o gydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith, cymorth proffesiynol parhaus, tai fforddiadwy, a digon o ddewis ar gyfer eu hamser hamdden. A bydd ein rhaglen hyfforddi newydd yn sicrhau bod gan fferyllwyr y sgiliau priodol i ddarparu gwasanaethau clinigol a gweithio yn hyblyg rhwng ysbytai, practisau meddygon teulu, fferyllfeydd cymunedol a lleoliadau eraill lle gall gweithwyr fferylliaeth proffesiynol wella diogelwch ac ansawdd y defnydd o feddyginiaeth."

Dywedodd Suzanne Scott-Thomas, Cadeirydd Bwrdd Fferylliaeth Cymru:

"Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi ymhellach mewn hyfforddi fferyllwyr ar gyfer dyfodol gofal iechyd yng Nghymru. Mae cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi a thrawsnewid yr hyfforddiant i fferyllwyr dan hyfforddiant cyn eu cofrestru yn gam cadarnhaol iawn ymlaen i'r GIG a chleifion yng Nghymru. 

Mae angen mwy o fferyllwyr bellach i ddiwallu'r galw cynyddol gan gleifion ac i wireddu'r dyheadau o ran dulliau aml proffesiynol o ddarparu gofal. Bydd yr hyfforddiant amlsector yn tanategu ac yn cefnogi gofal fferyllol di-dor i gleifion yng Nghymru. 

Bydd y cyhoeddiad heddiw yn ein rhoi ar gwrs gweithredu cyffrous i ddenu mwy o fferyllwyr i hyfforddi a gweithio yng Nghymru ac i sicrhau sylfaen gadarn i fferyllwyr drwy brofiad amlsector ar draws y GIG.”