Neidio i'r prif gynnwy

Wedi cyhoeddi y gall Bow Street gael gorsaf drenau a chyfnewidfa newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwnaed cais am £6.8 miliwn i Lywodraeth y DU drwy'r gronfa gorsafoedd newydd, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi talu'r costau i ddatblygu'r prosiect at y cam yma.

Esboniodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

"Rydym wedi cyflwyno cais cryf am 75% o gost y prosiect arfaethedig, y mwyafswm a ddarperir o gyllid Llywodraeth y DU. Rydym wedi'i gwneud yn glir y byddwn yn darparu'r gweddill er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau - £1.7 miliwn, gan gynnwys gwariant hyd yma. 

"Rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn â'r awdurdod lleol, grwpiau buddiant lleol a'r diwydiant rheilffyrdd i sicrhau bod cynigion yn arwain at ddatblygu'r orsaf a'r gyfnewidfa, gan ddechrau gwaith ym mis Ebrill 2018. Bydd yn weithredol i deithwyr yn 2019. 

"Mae gan Bow Street achos economaidd cryf, bydd yn cyfrannu at dwf a chyflogaeth yng nghanolbarth Cymru a bydd yn gwella mynediad at gyfleusterau megis Prifysgol Aberystwyth, Ysbyty Bronglais a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y prosiect arfaethedig hefyd yn ategu datblygiad campws newydd Prifysgol Aberystwyth gerllaw."