Mae Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a Chymdeithas Feddygol Prydain yn cydweithio i sicrhau diogelwch cleifion tra bydd y meddygon iau ar streic am y trydydd tro yr wythnos nesaf.
Mae Judith Paget, Pennaeth GIG Cymru, wedi rhybuddio y bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar wasanaethau, a bydd rhaid aildrefnu apwyntiadau a thriniaethau.
Bydd gofal brys a gofal mewn argyfwng yn cael eu darparu i'r rheini fydd eu hangen yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol.
Dywedodd Judith Paget:
Os nad yw'n hanfodol iddyn nhw gael gofal mewn adran damweiniau ac achosion brys yn ystod y streic, rydyn ni'n gofyn i bobl ddefnyddio gwasanaethau eraill. Mae gwasanaethau eraill yn cynnwys GIG 111 Cymru ar-lein neu dros y ffôn, a fferyllfeydd.
Os na fydd eich apwyntiad yn cael ei gynnal, bydd eich bwrdd iechyd yn cysylltu â chi i roi gwybod. Os na fydd y bwrdd iechyd wedi cysylltu â chi, dylech fynd i'ch apwyntiad fel y cynlluniwyd.
Bydd eich bwrdd iechyd lleol yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn eich ardal.
Bydd y streic yn para am bedwar diwrnod cyn diwrnodau gŵyl banc y Pasg, ar ddydd Gwener 29 Mawrth a dydd Llun 1 Ebrill.
Gallai gymryd mwy o amser nag arfer i wasanaethau meddygon teulu a fferyllfeydd brosesu presgripsiynau yn ystod y cyfnod hwn. Felly, mae pobl hefyd yn cael eu hannog i weithredu er mwyn bod yn siŵr na fyddant yn rhedeg allan o feddyginiaethau tra bydd y meddygfeydd a'r fferyllfeydd ar gau ar y diwrnodau gŵyl banc.
Ychwanegodd Judith Paget:
Os ydych chi'n derbyn presgripsiynau rheolaidd, cynlluniwch ymlaen llaw cyn gŵyl banc y Pasg.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu eich presgripsiynau rheolaidd o leiaf saith diwrnod ymlaen llaw.