Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, wedi datgan sut y bydd y wlad yn mynd ati i ddathlu’r achlysur pwysig hwn.
Wrth iddo siarad ychydig ddyddiau cyn i Gymru ddechrau cystadlu ym Mhencampwriaeth Ewro 2016 yn Bordeaux ddydd Sadwrn 11 Mehefin, dywedodd Ken Skates:
“Mae hon yn adeg ardderchog i fod yn gefnogwr tîm pêl-droed Cymru ac yn adeg gyffrous i fod yn Weinidog Cabinet ar gyfer digwyddiadau mawr a chwaraeon elitaidd.
“Pencampwriaeth Ewrop yw un o’r digwyddiadau chwaraeon uchaf ei broffil ar draws y byd. Mae bron 2 biliwn o bobl ledled y byd yn gwylio’r bencampwriaeth ac rydym mor falch bod Cymru’n rhan ohoni o’r diwedd.”
I ddathlu’r achlysur mae Ysgrifennydd yr Economi wedi cyhoeddi y bydd Cymru yn gweld môr o goch y mis hwn wrth i adeiladau eiconig Cymru, gan gynnwys ei chestyll, gael eu goleuo yn lliwiau cit cartref tîm pêl-droed Cymru.
Bydd yr adeiladau’n cael eu goleuo am y tro cyntaf ar 10 Mehefin, sef y noson cyn gêm gyntaf Cymru yn erbyn Slofacia, a byddant yn parhau i gael eu goleuo drwy gydol cyfnod gemau’r grwpiau a chyhyd ag y bydd Cymru yn chwarae yn y bencampwriaeth.
Dywedodd Ken Skates:
“Mae chwaraewyr Cymru ynghyd â’r cefnogwyr a’r rheolwyr wir wedi mynd ati i roi’r slogan Gorau Chwarae Cyd Chwarae ar waith a gallwn ni i gyd ymfalchïo yn eu llwyddiant.
“Mae goleuo’r cestyll yn un enghraifft o’r modd y mae’r Genedl yn dathlu’r gamp enfawr hon ac yn cefnogi’r tîm wrth iddo symud yn ei flaen fesul cam yn y gystadleuaeth.
“Mae yna ymdeimlad gwirioneddol mai dim ond y dechrau i’r tîm talentog hwn o Gymru oedd ennill ei le yn y bencampwriaeth. Edrychaf ymlaen at eu gweld yn rhedeg allan i’r cae yn Bordeaux a chynrychioli Cymru ar lwyfan y Byd.”
Hefyd, pe bai Tîm Cymru’n llwyddo i gyrraedd yr 16 olaf yn y bencampwriaeth, gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet addo y byddai Llywodraeth Cymru yn caniatáu i bobl gael mynediad am ddim i safleoedd sy’n cael eu rheoli’n uniongyrchol gan Cadw. Ddydd Sul 26 Mehefin yw’r dyddiad sydd wedi’i neilltuo ar gyfer hynny.
Ychwanegodd:
“Byddwn wrth fy modd pe bawn yn gallu cynnig mynediad am ddim am un diwrnod i gestyll hanesyddol a henebion Cymru pe bai tîm Cymru’n cyrraedd yr 16 olaf.
“Pe bawn yn cyrraedd mor bell â hynny, gobeithiaf y bydd pobl o Gymru yn manteisio’n llawn ar y cyfle hwn ac yn mwynhau diwrnod llawn hwyl, a diwrnod sy’n ehangu’ch gwybodaeth ac yn rhoi boddhad ichi.
“Rydym yn falch iawn o’r hyn y mae’r tîm hwn wedi’i gyflawni ac rwyf yn gwybod y bydd pobl ledled Cymru, yn yr un modd ag y byddaf innau, yn dilyn y tîm ac yn dymuno’n dda iddo yn ei bencampwriaeth gyntaf.”
Yn ogystal â goleuo Canolfan y Mileniwm, y Senedd a Pharc Cathays yng Nghaerdydd, mae’n fwriad gennym oleuo’r rhestr isod o safleoedd Cadw:
- Castell Biwmares
- Castell Caernarfon
- Castell Caerffili
- Castell Coch
- Castell Cas-gwent
- Castell Conwy
- Castell Coety
- Castell Criccieth
- Castell Dinbych
- Castell Harlech
- Castell Cydweli
- Castell Llansteffan
- Abaty Tyndyrn.
Mae gan Cadw dros 130 o safleoedd ledled Cymru a gellir cael mwy o wybodaeth am yr holl gestyll a’r eiddo sydd ganddo drwy fynd i’r wefan cadw (dolen allanol).