Neidio i'r prif gynnwy

Os allech chi weithio ar ddesg mewn hyb gyda phobl eraill yn nes at eich cartref ble hoffech chi fod?

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio gwefan newydd gyda mapiau rhyngweithiol fel y gall pobl ar draws Cymru eu helpu i benderfynu ble ddylai hybiau cydweithio hyblyg gael eu lleoli fel bod y defnydd gorau posibl yn cael ei wneud ohonynt.

Mae’r pandemig wedi chwyldroi’r ffordd y mae llawer o fusnesau a phobl ledled y byd yn gweithio ac mae Llywodraeth Cymru wedi gosod uchelgais tymor hir y bydd 30% o weithlu Cymru’n gweithio gartref neu’n gweithio lawer yn nes at adref.

I wireddu’r uchelgais, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio map rhyngweithiol i aelodau’r cyhoedd allu rhoi pin ar leoliad lle bydden nhw’n hoffi gweld hyb ‘gweithio o bell’ yn cael ei greu.  Mae Llywodraeth Cymru’n gobeithio, trwy fod yn rhyngweithiol, y caiff yr hybiau eu dylunio a’u datblygu gyda golwg ar sicrhau’r defnydd gorau ohonyn nhw.

Er mwyn cael mwy o bobl i weithio’n nes at adref, mae Llywodraeth Cymru’n treialu safleoedd gweithio hyblyg yn ardal Tasglu’r Cymoedd.

Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £500,000, gyda chymorth ei Chronfa Trawsnewid Trefi, mewn chwe safle gweithio hyblyg yn y Cymoedd. 

Bydd Llys Llwyn-y-pia’n cael ei ailddatblygu a chaiff safle cyd-weithio ei greu yng Nghymdeithas Tai Rhondda yn Nhon-y-pandy.

Bydd cyfleoedd hefyd i bobl weithio gerllaw mannau hardd a safleoedd treftadaeth lleol. Mae un lleoliad gweithio hyblyg newydd ar fin cael ei ddatblygu yn y Porth Darganfod yn Llyn Llech Owain yn Sir Gaerfyrddin ac un arall ym Mharc Bryn Bach ym Mlaenau Gwent.

Mae Pyrth Darganfod yn ffyrdd pwysig o adrodd hanes y Cymoedd a chael pobl leol ac ymwelwyr i grwydro a mwynhau treftadaeth naturiol a diwylliannol ardaloedd sy’n aml wedi cael eu hesgeuluso.

Caiff hybiau hyblyg eraill eu creu yn y Winding House yn Nhredegar Newydd, a llawr gwaelod prif swyddfa Cyngor Caerffili yn Nhŷ Penallta.

Bydd y dystiolaeth a gesglir o’r map rhyngweithiol a’r prosiectau treialu yn y Cymoedd yn ein helpu i ddatblygu hybiau yn y dyfodol.  Bydd nifer fach o dreialon lleol eraill yn cael eu cyhoeddi cyn hir.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

"Dyma’ch cyfle i roi gwybod i ni ble yr hoffech weithio a ble y byddech yn gweithio orau. Y nod yw creu dewis o ran lleoliadau gweithleoedd y dyfodol yng Nghymru.

“Mae’r pandemig wedi dangos nad oes angen i bawb fod yn y swyddfa drwy’r wythnos ac y byddai’n well gan lawer beidio â bod. Ac i gydnabod nad gweithio gartref yw’r dewis gorau i bawb, rydym am ddatblygu safleoedd gweithio o bell fel dewis arall ymarferol.

“Gall y math hwn o weithio hyblyg helpu pobl a’u cyflogwyr, ac yr un pryd cryfhau cymunedau lleol a chynnig manteision o ran yr hinsawdd a llesiant pobl wrth inni ddod i ddibynnu llai ar y daith pob dydd i’r gwaith.

“Mae gennym gyfle go iawn nawr i wneud gweithio hyblyg ac o bell yn norm diwylliannol.  Gallai hynny ein helpu i gefnogi ac adfywio’n busnesau lleol a chanol ein trefi, gwella’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i lawer, a lleihau’r amser a dreulir ar y daith hir i’r gwaith a’r difrod amgylchedd y mae hynny’n ei greu.