Neidio i'r prif gynnwy

Bydd busnesau sy’n dioddef effeithiau pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Medi 2021, yn ôl Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Un o’r ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno er mwyn cefnogi busnesau yw estyn y moratoriwm ar fforffedu tenantiaeth am beidio â thalu rhent tan 30 Medi 2021. Roedd y moratoriwm hwnnw i fod i ddod i ben yn wreiddiol ar 30 Mehefin 2021.

Bydd y cam hwn yn fodd i sicrhau, tan 30 Medi eleni, na fydd busnesau’n fforffedu eu tenantiaethau busnes am beidio â thalu rhent, ond dylent barhau i dalu rhent pryd bynnag y bo modd, ac mae er budd landlordiaid a thenantiaid fel ei gilydd i drafod ac i gytuno ar sut i fynd i’r afael ag unrhyw ôl-ddyledion.

Bydd y mesur hwn yn helpu amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys sectorau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, ar adeg sy'n parhau’n gyfnod masnachu hynod heriol, tra bydd y cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’r Coronafeirws yn cael eu llacio.

Ers dechrau'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod mwy na £2.5 biliwn wedi cyrraedd busnesau ledled Cymru, ac mae mwy o arian yn cyrraedd cwmnïau bob dydd. Mae’r pecyn cymorth busnes sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael oddi Lywodraeth y DU, ac mae'n un o'r rhai mwyaf hael yn y DU. Yn ogystal, yn wahanol i Loegr, mae Gweinidogion Cymru wedi sicrhau y bydd y cynllun rhyddhad ardrethi o 100% ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden yn para drwy gydol 12 mis y flwyddyn ariannol hon. Mae’r cam hwn yn cael ei gefnogi gan £380 miliwn eleni i helpu er mwyn rhoi amser i ryw 70,000 o fusnesau anadlu.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae pandemig y coronafeirws wedi bod yn brofiad hynod ofidus inni i gyd, yn enwedig i fusnesau a gweithwyr ym mhob cwr o Cymru. Rydyn ni wedi defnyddio pob sbardun posibl i'w cefnogi yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau swyddi a bywoliaeth i bobl. Dyna pam dw i’n cyhoeddi heddiw estyniad arall i’r mesurau i atal busnesau rhag fforffedu eu tenantiaethau am beidio â thalu rhent, a fydd yn diogelu busnesau rhag cael eu troi allan.

"Ers dechrau'r pandemig, rydyn ni wedi ymrwymo mwy na £2.5 biliwn i fusnesau ledled Cymru, yn ogystal â'r cymorth arferol rydyn ni’n ei roi drwy Busnes Cymru. Mae busnesau yn y sectorau sydd wedi dioddef waethaf yn dal i elwa hefyd ar becyn rhyddhad ardrethi busnes a fydd ar gael am 12 mis llawn.

“Gyda'i gilydd, mae'r mesurau hyn wedi helpu i ddiogelu miloedd o gwmnïau a diogelu llawer mwy o swyddi. Mae'n rhan allweddol o'n cynlluniau i roi hwb i adferiad cryf yng Nghymru ar ôl pandemig.

"Rydyn ni’n parhau’n ymrwymedig i gefnogi cwmnïau o Cymru.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU yn ddiweddar sut y mae'n bwriadu mynd i’r afael ag ôl-ddyledion rhent masnachol sydd wedi cronni yn ystod y pandemig. Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati yn ystod y misoedd sydd i ddod i ystyried sut i ymdrin â’r mater hwn yng Nghymru.