Heddiw, mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn ehangu ei gwaith dramor er mwyn rhoi hwb i fasnach a mewnfuddsoddiad yn dilyn Brexit.
Bydd Llywodraeth Cymru yn agor swyddfeydd yng Nghanada, Ffrainc, yr Almaen a Qatar y flwyddyn nesaf, er mwyn helpu i ddiogelu marchnadoedd presennol, chwilio am gyfleoedd newydd i fasnachu a buddsoddi, a hyrwyddo Cymru i'r byd.
Yr Almaen a Ffrainc yw dwy farchnad fwyaf Cymru yn Ewrop o ran masnachu a buddsoddi. Mae chwarter o holl allforion Cymru yn mynd i'r Almaen, ac roedd hyn werth £2.9bn y llynedd yn unig. Mae 90 o gwmnïau o'r Almaen wedi'u lleoli yng Nghymru, sy'n cyflogi dros 12,000 o bobl.
Ffrainc yw ail gyrchfan mwyaf Cymru o ran allforion, ac yn 2016 roedd allforion o Gymru i Ffrainc yn werth £1.9bn. Yn ogystal â hynny, amcangyfrifir bod 80 o gwmnïau Ffrengig yng Nghymru, sy'n cyflogi 8,100 o bobl.
Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2017, Canada oedd y nawfed marchnad fwyaf ar gyfer allforion o Gymru, gwerth £392 miliwn, sy'n gynnydd o bron 70% o gymharu â'r 12 mis blaenorol. Mae Canada hefyd ymhlith y 5 marchnad sy'n buddsoddi'r mwyaf yng Nghymru, wrth i gwmnïau megis CGI o Montreal leoli rhai o’i swyddfeydd yng Nghymru.
Mae'r Dwyrain Canol yn farchnad fasnachol gynyddol, sydd wedi tyfu’n aruthrol fel cyrchfan i allforion gan gwmnïau o Gymru. Y llynedd, Qatar oedd y 15fed marchnad fwyaf ar gyfer allforion o Gymru, gwerth £172 miliwn i economi Cymru, sy'n gynnydd o dros 15% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mae Cymru wedi gweld ei lefelau o fewnfuddsoddiad yn cynyddu am dair blynedd yn olynol, gan ddenu cwmnïau mawr gan gynnwys GE Aviation a General Dynamics - a hynny er gwaethaf Brexit a chystadleuaeth gan rai o economïau mwya'r byd.
Mae timau tramor Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Cymru fel lleoliad posibl i fuddsoddi ynddo, ac maent wedi helpu i sicrhau rhai o fuddsoddiadau tramor mwyaf Cymru.
I allforwyr Cymreig, mae timau tramor Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at wneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi, gan gynnig gwybodaeth am farchnadoedd a thueddiadau, yr hinsawdd fusnes a diwylliant yn ogystal â ffyrdd o ennill busnes newydd. Mae’r timau tramor hefyd yn cynnig mynediad at rwydweithiau a busnesau ac yn hwyluso cysylltiadau â'r rheini sy'n dylanwadu ac yn gwneud penderfyniadau.
Yn ystod araith bwysig ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd heno, yn sôn am Gymru ar ôl Brexit, bydd y Prif Weinidog yn dweud:
"Wrth gynyddu ein presenoldeb yn y marchnadoedd allweddol hyn, mae'n ein galluogi i fynd ar drywydd cyfleoedd newydd i fasnachu a buddsoddi, meithrin rhwydweithiau a hyrwyddo Cymru i'r byd. Mae hyn yn bwysicach nag erioed wrth i ni wynebu dyfodol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
"Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn arwain at heriau, yn ogystal â chyfleoedd. Dyna pam rydyn ni'n cynyddu ein presenoldeb yn Ewrop ac ar draws y byd, fel bod modd i ni gwrdd â buddsoddwyr newydd a'u denu i Gymru, a gwerthu cynnyrch Cymreig i gwsmeriaid dramor.
"Yn ogystal â chanfod cyfleoedd newydd a chyffrous, rydym yn gweithio'n galed i ddiogelu ein marchnadoedd presennol. Mae dwy ran o dair o allforion Cymru yn mynd i wledydd Ewropeaidd, tra bod un rhan o dair o'r holl Fuddsoddiadau Uniongyrchol o Dramor yn dod o'r Undeb Ewropeaidd.
"Byddai gadael y Farchnad Sengl a phellhau oddi wrth farchnadoedd masnachu Ewropeaidd hollbwysig yn hynod o niweidiol i'n heconomi. Mae cynnal a chynyddu buddsoddiadau gan gwmnïau sydd eisoes wedi'u lleoli yng Nghymru yn hollbwysig i ni, a bydd cael adnoddau penodedig yn y gwledydd hyn yn sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd buddsoddi a ddaw yn sgil y marchnadoedd hyn.”