Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymgynghoriad yn cychwyn heddiw ar ddiwygio deddfau trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat, sydd ‘yn gymhleth, yn hen ffasiwn ac wedi dyddio’.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi annog pawb sydd â diddordeb i ddweud eu dweud am y cynigion. Bydd y cynigion hyn yn mynd i’r afael â phroblemau sydd wedi’u codi gan yrwyr, undebau, awdurdodau trwyddedu a Chomisiwn y Gyfraith er mwyn cynrychioli arferion modern yn well.

Dywedodd Ken Skates:

“Mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn rhoi gwasanaeth cyhoeddus hanfodol i ni. Maent yn ddolen gyswllt rhwng lleoliadau â’i gilydd pan nad oes math arall o drafnidiaeth gyhoeddus yn bosibl.

“Yng Nghymru ceir tua 9200 o yrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat. Maent i gyd yn gorfod cadw at ddeddfwriaeth drwyddedu sy’n dod o ddyddiau’r cerbydau hacnai a oedd yn cael eu tynnu gan geffyl.

“Yn 2014, gwnaed argymhellion gan Gomisiwn y Gyfraith ynghylch sut y gellid gwella’r system drwyddedu, a diolch i Ddeddf Cymru 2017, rwy’n falch o allu ymgynghori ar gynigion sy’n ceisio darparu system symlach a thecach. System sy’n gweddu i Gymru’r unfed ganrif ar hugain.

Gwnaed 84 o argymhellion gan Gomisiwn y Gyfraith yn eu hadolygiad o’r gyfraith sy’n llywodraethu tacsis a cherbydau hurio preifat. Mae’r mwyafrif ohonynt wedi eu hadlewyrchu yng nghynigion Llywodraeth Cymru. Maent yn cynnwys:

  • cyflwyno safonau cenedlaethol ar gyfer pob tacsi a cherbyd hurio preifat, a osodir gan Weinidogion Cymru
  • bod awdurdodau trwyddedu lleol yn gallu gosod amodau trwyddedu ychwanegol pan fo hynny’n briodol ac yn parhau i fod yn gyfrifol am gyhoeddi trwyddedau a gorfodi
  • bod trwyddedu cerbydau hurio preifat yn cynnwys cerbydau fel limwsîns, ond bod ceir ar gyfer priodas neu angladd yn parhau i fod wedi eu heithrio
  • bod darparwyr yn gallu gweithio’n haws dros ffiniau awdurdodau lleol a bod swyddogion trwyddedu yn cael pwerau gorfodi newydd i fynd i’r afael â cherbydau a gyrwyr sydd wedi’u trwyddedu mewn ardaloedd gwahanol
  • cynnig bod cosbau llymach ar dowtio (mynd at gwsmeriaid am fusnes), gan gynnwys atafaelu cerbydau
  • awdurdodau trwyddedu lleol yn cadw’r hawl i gyfyngu ar nifer y tacsis sy’n gweithio yn eu hardal drwyddedu
  • gwella trefniadau ar gyfer rheoleiddio prisiau.

Dywedodd Ken Skates:

“Mae’r cynigion blaengar hyn yn mynd i wella’r ddeddfwriaeth bresennol, sy’n gymhleth, yn hen ffasiwn ac wedi dyddio. Byddant yn adlewyrchu anghenion gyrwyr yr unfed ganrif ar hugain, yr awdurdodau trwyddedu a’r teithwyr yma yng Nghymru. Rwy’n annog pawb sydd â buddiant yn y sector i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn.

Golwg: Trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat.