Neidio i'r prif gynnwy

Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi pecyn cyllid cyfalaf ychwanegol o £7.7 miliwn i helpu i sicrhau bod rhieni ledled Cymru yn derbyn Gofal Plant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cynnig Llywodraeth Cymru yn darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi'i ariannu ar gyfer plant 3 a 4 oed am hyd at 48 awr y flwyddyn. Mae bellach wedi'i gyflwyno'n llawn ac ar gael i rieni ledled Cymru, flwyddyn yn gynt na'r hyn a fwriadwyd.

Mae'r cyllid newydd yn cynnwys £6.5 miliwn ar gyfer 12 o brosiectau unigol ledled Cymru, gan helpu iddynt sefydlu lleoliadau gofal plant newydd neu i adnewyddu cyfleusterau sy'n bodoli eisoes, i fodloni'r safonau gofynnol a ddisgwylir mewn lleoliad o'r fath.

Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys £1.2 miliwn yn ychwanegol ar gyfer Cynlluniau Grantiau Bach wedi'u gweinyddu gan Awdurdodau Lleol oherwydd y cynnydd yn y galw gan ddarparwyr gofal plant.  Mae'r cynlluniau hyn yn galluogi darparwyr i ddefnyddio hyd at £10,000 o gyllid cyfalaf ar gyfer adeiladu addasiadau i'w galluogi i ddarparu y Pecyn Gofal Plant.

Mae'r pecyn cyfalaf hwn yn mynd â chyfanswm y cyllid Gofal Plant sydd wedi'i ddyrannu ers Ebrill 2019 i £81.1 miliwn. Hefyd o fis Ebrill 2019, bydd darparwyr gofal plant ledled cymru yn elwa o ryddhad ardrethi busnes yn llawn, gan eu heithrio o dalu ardrethi. Dylai hyn helpu cynaliadwyedd a thwf darparwyr.

Meddai Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

"Mae gwella'r ddarpariaeth gofal plant ledled Cymru yn flaenoriaeth fawr i Lywodraeth Cymru. Mae cyhoeddiad heddiw yn cefnogi ein hymrwymiad i leihau'r baich ariannol ar deuluoedd a dileu rhwystrau i rieni sydd naill ai'n dechrau neu'n dychwelyd i'r gwaith os ydynt yn dymuno hynny.

"Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn sicrhau cyfleusterau gwell yn ogystal â chreu lleoliadau gofal plant newydd, gan fod o fudd i rieni a'u plant yn uniongyrchol. Rydym yn gwybod bod cost gofal plant yn bryder mawr i rieni sy'n gweithio, ac felly dwi'n falch iawn bod cynifer o blant a'u teuluoedd eisoes wedi elwa o'r Cynnig."

Dyma rai o'r prosiectau sy'n derbyn cyllid:

  • Ceredigion - Derbyniodd Ysgol Gynradd Cenarth £370,500 yn ychwanegol i greu cyfleuster gofal plant cofleidiol, gan gynnwys Cylch Meithrin, gwasanaeth cofleidiol i blant 3-4 mlwydd oed, a Chlwb Ar Ôl Ysgol newydd. Mae hyn yn dilyn dyrannu £369,500 a ddyfarnwyd ym mis Chwefror 2019.
  • Gwynedd - Dyfarnwyd £60,000 i'r Awdurdod Lleol i'w galluogi i benodi rheolwr prosiect i oruchwylio y rhaglen buddsoddi cyfalaf.
  • Gwynedd - Derbyniodd Ysgol Beuno Sant, Y Bala £254,000 yn ychwanegol fel bod modd symud y Cylch Meithrin i safle newydd. Mae hyn yn dilyn dyraniad o £46,000 ym mis Chwefror 2019.
  • Casnewydd - Dyfarnwyd £80,000 yn ychwanegol i Ganolfan Gymunedol Gaer ar gyfer gwaith ailfodelu, yn dilyn dyrannu £100,000 ym mis Chwefror.
  • Wrecsam - Dyfarnwyd £30,000 yn ychwanegol i feithrinfa breifat Homestead i'w galluogi i ymestyn a chynyddu capasiti, yn dilyn dyfarnu £170,000 ym mis Chwefror 2019.
  • Wrecsam - Derbyniodd Ysgol y Santes Fair, Overton £200,000 yn ychwanegol i ymestyn safle'r ysgol a darparu lleoliad parhaol ar gyfer Grŵp Chwarae Overton, yn ogystal â dyfarniad o £200,000 ym mis Chwefror 2019.