Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, heddiw wedi cadarnhau £1.5m o gyllid gan Lywodraeth Cymru i’r elusen plant Bobath. Bydd yn helpu’r elusen i brynu a datblygu lleoliad newydd yn Llanisien, Caerdydd.
Bydd y ganolfan newydd yn helpu’r elusen i gynyddu nifer y plant y gall eu cefnogi, tua 100 yn fwy o blant bob blwyddyn. Bydd yn darparu cyfleusterau modern a hygyrch i deuluoedd sy’n defnyddio’r ganolfan, gan gynnwys cyfleusterau newid a chyfarpar codi ym mhob rhan ohoni.
Sefydlwyd Bobath 27 o flynyddoedd yn ôl gyda’r nod o wella ansawdd bywyd plant yng Nghymru sydd â pharlys yr ymennydd a chyflyrau niwrolegol cysylltiedig eraill.
Mae Canolfan Therapi Plant Bobath Cymru yn darparu ffisiotherapi arbenigol, therapi galwedigaethol a therapi lleferydd ac iaith i blant o bob cwr o Gymru.
Bydd y cyfleuster hefyd yn darparu hyfforddiant i deuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac ym maes Addysg. Rydym yn gobeithio y bydd y ganolfan yn agor yn ystod haf 2020.
Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Mae Bobath yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i blant sy’n byw â pharlys yr ymennydd, ac mae’n darparu cymorth hollbwysig i deuluoedd.
Bydd y buddsoddiad yn arwain at well gofal ar gyfer cleifion a gwell profiad ar gyfer teuluoedd. Bydd yr £1.5m yn caniatáu i ragor o deuluoedd elwa ar y gwasanaethau gwych y mae Bobath yn eu darparu. Edrychaf ymlaen at ymweld â’r ganolfan newydd i weld sut y bydd y buddsoddiad yn gwneud gwahaniaeth go iawn i staff a chleifion Bobath.”
Dywedodd Jenny Carroll, MA, MCSP, PGC (HE), Cyfarwyddwr y Ganolfan a Ffisiotherapydd Ymgynghorol:
Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer canolfan therapi newydd i blant a theuluoedd sy’n byw â pharlys yr ymennydd.
Mae’r elusen wedi gwneud cynnydd sylweddol ers iddi gael ei sefydlu gan deuluoedd ar gyfer teuluoedd yn 1992. Ond, rydym yn llawn cyffro ac yn ddiolchgar iawn ein bod yn cael y cyfle yn awr i greu canolfan i blant sy’n fodern, yn addas i’r diben ac a fydd yn ei galluogi ni i sicrhau newid sylweddol wrth ddarparu therapi a fydd yn newid bywydau a gwasanaethau cymorth i deuluoedd.
Diolch i Lywodraeth Cymru a Sefydliad Moondance, edrychwn ymlaen at ddyfodol lle gallwn ddatblygu a gwella ein gwasanaethau ar gyfer plant â pharlys yr ymennydd a’u teuluoedd, o bob cwr o Gymru.