Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn rhoi cymorth ariannol i Gyngor Sir Ynys Môn i gwblhau gwaith adfer ar dir halogedig yn ystad Craig-y-Don yn Amlwch. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae wedi dod i’r amlwg bod y tir hwn wedi effeithio ar 16 o gartrefi ar yr ystad. Yn ôl ymchwiliadau a gynhaliwyd yn gynharach eleni, mae crynodiadau uchel o arsenig a phlwm o dan yr eiddo a fyddai'n gallu peryglu iechyd pobl.

Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i ariannu 60% o'r gost, gyda Chyngor Sir Ynys Môn yn talu am y gweddill.  

Adeiladwyd Craig-y-Don yn yr 1950au ar dir yr hen waith smeltio metel Gwaith Hills a oedd yn gweithredu rhwng 1786 ac 1897, cyn cael ei droi'n ffatri gemegol. Mae’r ystad bellach yn cynnwys 112 o eiddo preswyl. Mae rhai ohonynt yn anheddau preifat ac eraill yn gartrefi sy'n berchen i Gyngor Sir Ynys Môn ac yn cael eu rhoi ar les i denantiaid.

Bydd cyllid y Llywodraeth yn sicrhau na fydd yn rhaid i drigolion dalu am y gwaith eu hunain, ac na fydd yn rhaid i'r awdurdod lleol ddefnyddio ei gyllidebau presennol i dalu am y gost i gyd. 

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn: 

"Mewn achosion pan nad yw'r llygrwr gwreiddiol yn bodoli bellach, perchennog neu feddiannydd yr eiddo sy'n gyfrifol fel arfer am dalu costau adfer y tir halogedig. 

"Fodd bynnag, o gofio'r nifer o ffactorau neilltuol yng Nghraig-y-Don, roeddem yn teimlo ei bod yn briodol i'r Llywodraeth ddarparu cymorth ariannol ar gyfer y gwaith adfer. 

"Mae tir halogedig yn effeithio fwyaf ar ardaloedd a oedd yn arfer bod yn rhai diwydiannol, canol dinasoedd ac ardaloedd y dociau. Rwy'n falch o gyhoeddi'r cyllid hwn a fydd yn helpu i adfer y tir i fod yn ardal ddiogel a glân i drigolion, y gymuned a chenedlaethau'r dyfodol". 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi:

"Rwy'n ddiolchgar i’n cyfeillion yn Llywodraeth Cymru am y gefnogaeth ariannol fydd sicrhau bod y gwaith pwysig yma’n mynd ymlaen."

"Mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol i drigolion Craig y Don, ond y nhw sydd wedi bod yn flaenoriaeth i ni bob cam o’r ffordd.

“Trwy weithio mewn partneriaeth, mae'r arian sydd ei angen gennym nawr i helpu pob un ohonynt, pa un ai ydynt yn denantiaid neu'n berchnogion tai.”