Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Cymunedau Carl Sargeant wedi cymeradwyo cyllid gwerth £20,285 i Undeb Credyd Gateway ym Mhont-y-pŵl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r grant yn dod o raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, sy'n ceisio datblygu a gwella cyfleusterau er mwyn atal colli gwasanaethau cymunedol, ac i ddarparu gwasanaethau sy'n helpu i liniaru tlodi a'i effeithiau.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i wella'r brif swyddfa yng nghanol tref Pont-y-pŵl, drwy gael gwared â lloriau asbestos a gwneud newidiadau er mwyn i'r adeilad gyrraedd safon dderbyniol.

Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd Carl Sargeant:

“Bydd y cyllid hwn yn helpu i wneud gwaith atgyweirio hanfodol i'r adeilad, fel bod yr undeb credyd yn gallu parhau i gynnig gwasanaeth gwerthfawr i'r gymuned leol. 

“Mae undebau credyd yn cynnig opsiynau credyd cyfrifol a fforddiadwy ar gyfer aelodau, yn ogystal â darparu cymorth a chyngor ariannol dibynadwy.

“Os nad yw'r gwaith hwn yn cael ei wneud, bydd y gymuned yn colli mynediad at y gwasanaethau hyn yn y pen draw. Mae'n bleser gen i gymeradwyo'r cyllid hwn er mwyn diogelu gwasanaethau'r undeb credyd yn yr ardal hon.”