Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £2.8 miliwn i Gyngor Wrecsam i wneud gwaith atgyweirio hanfodol i'r B5605 yn Newbridge, ger Wrecsam.
Mae'r ffordd, sy'n gweithredu fel llwybr cymudo prysur i bobl leol ac sy'n darparu opsiwn dargyfeirio ar gyfer ffordd osgoi'r A483, wedi bod ar gau ers y difrod a achoswyd gan storm Christoph y llynedd.
Oherwydd difrifoldeb y difrod, mae Cyngor Wrecsam wedi cynnal cyfres o arolygon cymhleth a dadansoddiadau cost i ganfod faint o waith atgyweirio sydd ei angen cyn y gall y gwaith ddechrau ar wneud y ffordd yn weithredol eto.
Bydd newid yn yr hinsawdd yn cynyddu dwyster ac amlder stormydd a digwyddiadau tywydd eithafol eraill, gan roi pwysau ychwanegol ar seilwaith. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad ffyrdd cenedlaethol i gydbwyso gwariant rhwng adeiladu ffyrdd newydd, ac addasu a chynnal y rhai presennol.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi'n helaeth mewn trafnidiaeth gyhoeddus i'w gwneud yn ddewis hawdd i fwy o bobl, gan ryddhau pwysau pellach ar ffyrdd Cymru.
Yn dilyn cais llwyddiannus diweddar am gyllid i Lywodraeth Cymru, bydd y gwaith atgyweirio yn dechrau yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd sy'n gyfrifol am Drafnidiaeth:
"Cafodd storm Christoph ganlyniadau dinistriol i gymunedau pan darodd Gymru y llynedd, gan darfu llawer ar ein seilwaith a'n ffyrdd.
“Drwy gydol y broses adfer hir rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r holl awdurdodau lleol ac rwy'n falch ein bod wedi gallu darparu cyllid hanfodol i Gyngor Wrecsam i wneud y gwaith atgyweirio ar y ffordd hon drwy ein Cronfa Ffyrdd Cydnerth.
"Rydym yn parhau i weithio'n galed i feithrin gwydnwch yn ein rhwydweithiau teithio a'n seilwaith ehangach wrth i ni gynllunio ymlaen llaw ar gyfer newid yn yr hinsawdd.
Meddai Ian Bancroft, Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam:
"Bydd atgyweirio'r ffordd hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl yn Newbridge, Cefn Mawr a Rhosymedre, yn ogystal â chymunedau cyfagos fel Plas Madoc, Rhiwabon a'r Waun.
"Nid yw'n waith atgyweirio ffordd syml, mae'r difrod yn sylweddol ac rydym wedi gorfod cynnal llawer o asesiadau geo-dechnegol manwl a dadansoddi costau.
"Ond rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu sicrhau'r cyllid hwn, ac edrychwn ymlaen at ailagor y darn allweddol hwn o seilwaith.