Neidio i'r prif gynnwy

Mae newidiadau sylweddol sy’n diogelu datganoli wedi’u sicrhau i Fil Brexit Llywodraeth y DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Gweinidogion Cymru wedi dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU ynghylch Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) sy'n golygu y bydd meysydd sydd eisoes wedi'u datganoli yn parhau i fod wedi'u datganoli.

Byddai'r Bil ar ei ffurf wreiddiol wedi caniatáu i Lywodraeth y DU gymryd rheolaeth o feysydd polisi datganoledig, fel ffermio a physgota, ar ôl Brexit.

Ar ôl misoedd o drafodaethau dwys, llwyddwyd i ddod i gytundeb, sy'n golygu y gall Llywodraeth Cymru argymell i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cydsyniad i'r Bil.

Bydd newidiadau i'r Bil a chytundeb rhynglywodraethol yn cael eu cyhoeddi fory. Mae’r cytundeb yn cynnwys y canlynol:

  • Bydd meysydd sydd eisoes wedi'u datganoli yn parhau i fod wedi'u datganoli, ond mewn nifer cyfyngedig o feysydd bydd angen cytuno ar reolau cyffredin ar draws y DU yn lle rheolau presennol yr UE.
  • Bydd pob pŵer a maes polisi datganoledig yn gorffwys yng Nghymru, oni bai eu bod wedi'u rhagnodi i gael eu dal dros dro gan Lywodraeth y DU. Bydd hyn mewn meysydd lle mae angen rheolau cyffredin ar draws y DU.
  • Bydd Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig ynglŷn â'r meysydd o gyfraith bresennol yr UE fydd yn cael eu 'rhewi' wrth i reolau cyffredin ar gyfer y DU gyfan -a elwir yn fframweithiau - gael eu cytuno.
  • Mae'r diwygiadau newydd i'r Bil yn cynnwys cymalau 'machlud' sy'n gwarantu mai dros dro yn unig y caiff y pwerau hyn eu 'rhewi', ac mae cyfyngiad ar ba mor hir y gellir cadw pwerau wedi'u 'rhewi' hefyd.
  • Bydd unrhyw reoliadau a wneir gan Lywodraeth y DU mewn meysydd polisi y mae'n eu dal dros dro yn dod i ben ar ôl pum mlynedd, ac ar ôl hynny bydd rhyddid i'r Cynulliad a Gweinidogion Cymru ddeddfu.  

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:

"Dyma gytundeb y gallwn weithio arni, sy'n cyfaddawdu'n briodol o'r ddwy ochr. Ein nod drwy gydol y trafodaethau hyn oedd diogelu datganoli a sicrhau bod cyfreithiau a meysydd polisi sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd yn parhau wedi'u datganoli, ac rydyn ni wedi llwyddo i wneud hyn.

“Rydyn ni wedi cydnabod o'r cychwyn bod angen fframweithiau cyffredin ar draws y Deyrnas Unedig mewn achosion lle na fydd rheolau'r Undeb Ewropeaidd yn gymwys bellach.

“Roedd y Bil drafft gwreiddiol yn golygu y byddai pwerau a oedd wedi'u datganoli eisoes wedi cael eu crafangu yn ôl gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit, a dim ond Gweinidogion yn Llundain fyddai â'r hawl i benderfynu os a phryd y byddent yn cael eu rhoi yn ôl i'r seneddau datganoledig. Roedd hyn yn gwbl annerbyniol ac yn groes i ewyllys pobl Cymru a bleidleisiodd dros y setliad datganoli presennol mewn dau refferendwm.

“Rydyn ni mewn sefyllfa gwbl wahanol erbyn hyn. Mae Llundain wedi newid ei safbwynt fel bod pob pŵer a maes polisi yn gorffwys yng Nghaerdydd, oni bai eu bod wedi'u rhagnodi i gael eu dal dros dro gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd y rheiny yn feysydd lle y byddwn yn cytuno bod angen rheolau cyffredin ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan er mwyn sicrhau marchnad fewnol lwyddiannus yn y Deyrnas Unedig.

“Rydym yn croesawu parodrwydd Llundain i wrando ar ein pryderon a chymryd rhan mewn trafodaethau difrifol. Mewn Teyrnas Unedig ddatganoledig, rhaid i lywodraethau ymdrin â'i gilydd yn gyfartal, ac mae'r cytundeb hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir. Rhaid i'r agwedd hon barhau nawr wrth inni baratoi ar gyfer ymadael â'r UE a'r cam nesaf o drafodaethau â Brwsel.

"Mae un peth yn gwbl sicr; bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau bod llais Cymru'n cael ei glywed yn uchel ac yn glir, er mwyn sicrhau Brexit sy'n diogelu datganoli, swyddi a'n heconomi."