Neidio i'r prif gynnwy

Ar hyn o bryd bwriedir i'r drefn newydd ddod i rym yn haf 2019.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Pasiwyd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mehefin 2018, a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Awst 2018. 

Mae'r Ddeddf yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno isafbris uned am alcohol a gyflenwir yng Nghymru. Bydd hefyd yn ei gwneud yn drosedd i fanwerthwyr gyflenwi alcohol islaw isafbris penodol a fydd y cael ei gyfrifo drwy ystyried yr isafbris uned hwnnw, cryfder yr alcohol a'i gyfaint, gan dargedu'n benodol alcohol rhad a chryf. 

Heddiw, fe lansiodd yr Ysgrifennydd Iechyd ymgynghoriad ar yr isafbris uned o 50c y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio. 

Ar hyn o bryd bwriedir i'r drefn newydd ddod i rym yn haf 2019.

Yn ôl dadansoddiad diweddar gan Brifysgol Sheffield, amcangyfrifir y bydd isafbris uned o 50c yng Nghymru yn: 

  • Targedu bron hanner yr holl alcohol allfasnach sy'n cael ei werthu ac ychydig o dan hanner yr alcohol a brynir gan yfwyr niweidiol, gan effeithio ar ychydig dros un rhan o bump yn unig o'r alcohol a brynir gan yfwyr cymedrol
  • Arwain at 66 (8.5%) yn llai o farwolaethau y gellir eu priodoli i alcohol bob blwyddyn
  • Arwain at 1,281 (3.6%) yn llai o dderbyniadau i ysbytai y gellir eu priodoli i alcohol bob blwyddyn.

Yfwyr niweidiol fyddai dros hanner y gostyngiad a amcangyfrifir i'r lefelau yfed. Byddai effaith fach iawn ar yfwyr cymedrol, sef llai na 8% o'r gostyngiad i'r lefelau yfed, yn unol â bwriad y ddeddfwriaeth.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

“Amcan pennaf cyflwyno isafbris uned am alcohol yw mynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys derbyniadau i ysbytai y gellid eu priodoli i alcohol a marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru, drwy leihau faint o alcohol a gaiff ei yfed gan yfwyr peryglus a niweidiol. 

“Yn benodol, mae'r Ddeddf yn cael ei hanelu at ddiogelu iechyd yfwyr peryglus a niweidiol - gan gynnwys pobl ifanc - sy'n dueddol o yfed symiau uwch o gynhyrchion rhad sy'n cynnwys lefelau alcohol uchel.

"Byddai gosod lefel uchel o isafbris uned yn effeithio ar gyfran uwch o’r alcohol sy'n cael ei brynu ac yn cael mwy o effaith ar niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Fodd bynnag, ar y llaw arall byddai mwy o effaith hefyd ar yfwyr cymedrol, yn arbennig yfwyr cymedrol ymysg grwpiau mwy difreintiedig. Ar ôl ystyried yn fanwl, a phwyso a mesur, rwy'n ffafrio gosod lefel gychwynnol yr isafbris uned ar 50c. Ond byddwn nawr yn casglu sylwadau gan unigolion, busnesau, cyrff cyhoeddus ac eraill sydd â buddiant ynghylch yr isafbris y mae Llywodraeth Cymru'n ei ffafrio sef 50c." 

Mae'r gyfraith newydd yn cefnogi strategaeth gynhwysfawr Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag yfed peryglus a niweidiol drwy ddelio ag argaeledd a fforddiadwyedd alcohol rhad a chryf. Mae hyn yn rhan o ymdrechion ehangach i wella a diogelu iechyd poblogaeth Cymru.

Ar hyn o bryd:

  • Mae ychydig o dan ddwy ran o bump (37%) o'r holl alcohol yn cael ei brynu am bris sy'n is na 50c yr uned, gan gyfrif am ychydig llai na hanner yr holl alcohol allfasnach (47% wedi'i werthu am lai na 50c)
  • Prynodd yfwyr cymedrol 22% o’u hunedau am bris islaw’r trothwy hwn, ac roedd y ffigurau ar gyfer yfwyr peryglus a niweidiol yn uwch (36% a 46% yn y drefn honno)
  • Mae yfwyr niweidiol yn prynu mwy o alcohol allfasnach nag yfwyr peryglus na chymedrol (76% o gymharu â 67% a 60% yn y drefn honno).