Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Drafnidiaeth ddrafft newydd heddiw yn addo gostyngiad mawr mewn allyriadau carbon o’r rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru.
Mae trafnidiaeth yn gyfrifol ar hyn o bryd am 17% o allyriadau carbon Cymru ond mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bennu blaenoriaethau newydd ac ymestynnol dros bum mlynedd i fynd i’r afael ag allyriadau carbon wrth iddi geisio cyrraedd ei thargedau datgarboneiddio.
Cafodd y strategaeth ddrafft, ‘Llwybr Newyd – New Path’ ei lansio ddydd Mawrth a bydd yn llunio system drafnidiaeth Cymru dros y ddwy ddegawd nesaf. Mae yn pennu ystod o uchelgeisiau newydd i drawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru, gan gynnwys hierarchiaeth drafnidiaeth gynaliadwy newydd fydd yn helpu i lywio buddsoddiadau tuag at opsiynau trafnidiaeth gwyrddach.
Dywedodd y Gweinidog Ken Skates ei fod yn gyfnod sy’n dod ‘unwaith mewn oes’ i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn ganolog i ddyfodol Cymru.
Wedi’i gyhoeddi wrth i’r pandemig barhau i gael effaith ar fywydau pob dydd, mae’r strategaeth yn cydnabod bod patrymau o lai o gymudo a mwy o weithio gartref yn debygol o barhau.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi amlinellu ei uchelgais hirdymor i 30% o’r gweithlu weithio o gartref neu o bell, wedi’i gyflawni drwy roi mwy o ddewis i bobl ynghylch sut a ble y gallant weithio. Mae’r strategaeth yn cydnabod y gall mwy o wasanaethau lleol a mwy o deithio llesol olygu bod llai o bobl yn gorfod defnyddio eu ceir bob dydd.
Mae ‘Llwybr Newydd’ yn gosod pedwar o uchelgeisiau hirdymor ar gyfer y system drafnidiaeth yng Nghymru, wedi’u pennu drwy gyfres o flaenoriaethau pum mlynedd. Mae hefyd yn pennu naw o ‘gynlluniau bychain’ ar gyfer cyflawni o fewn dulliau a sectorau allweddol: teithio llesol; rheilffyrdd; bysiau; ffyrdd, (gan gynnwys strydoedd a pharcio); y trydydd sector; tacsis a cherbydau hurio preifat; cludiant a logisteg; a phorthladdoedd, trafnidiaeth forol a hedfanaeth.
Lansiwyd ymgynhgoriad i bobl gael dweud eu dweud ar eu cynlluniau, sy’n rhedeg tan 25ain Ionawr 2021.
Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
“Mae ein system drafnidiaeth yn un o’r asedau cenedlaethol pwysicaf sydd gennym. Mae’n cysylltu pobl â’i gilydd, yn clymu cymunedau ac yn galluogi busnesau i ddatblygu ac ehangu. Mae’n un o’r dulliau mwyaf pwerus ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol a thwf cynhwysol sydd gennym.
“Ond yn 2020 rydym mewn cyfnod pwysig yn ei ddatblygiad. Mae’r argyfwng hinsawdd, mae technoleg newydd yn tarfu ar y ffordd yr ydym yn meddwl am drafnidiaeth ei hun, ac mae’r Coronafeirws yn tarfu’n ddifrifol ar sylfeini ariannol ac economaidd ein modelau trafnidaieth cyhoeddus.
“Mae ein strategaeth newydd - Llwybr Newydd – yn pennu ymrwymiad I leihau allyriadau trafnidiaeth ar raddfa fawr fel y gall pob un ohonom chwarae rhan I fynd I’r afael â’r sefyllfa rydyn ni’n ei hwynebu. Mae’n dangos sut fydd hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn ganolog i’n gwaith, yn enwedig yng nghyd-destun pandemig sy’n newid yn sylfaenol y ffordd yr ydym yn byw, gweithio a chwarae.
“Mae’r symudiad tuag at system drafnidiaeth wyrddach eisoes ar droed, gyda mwy o fuddsoddiad nag erioed mewn teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae Llwybr Newydd yn gyfle unwaith mewn oes i gadarnhau a chyflymu’r gwaith hwnnw fel y gallwn sicrhau bod ein system drafnidiaeth yng Nghymru yn wirioneddol addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
Rydym wedi cyrraedd y pwynt ble mai teithio mewn car yw’r ffordd hawsaf i deithio i’r rhan fwyaf o bobl. Os ydym i lwyddo i fynd i’r afael â newid hinsawdd mae’n rhaid i hynny newid, ond mae’n mynd i olygu ymdrech fawr i annog pobl i ystyried dewisiadau eraill. Byddwn ond yn llwyddo i berswadio pobl i newid eu harferion os ydym yn cynnig dulliau mwy atyniadol eraill o deithio. A dyna’r dasg y mae ein strategaeth drafnidiaeth newydd wedi’i gosod iddi ei hun.