Mae cynlluniau i adeiladu canolfan gofal integredig newydd sbon i bobl Aberteifi wedi cael eu cymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.
Gan fod cytundeb ffurfiol wedi’i roi, bydd gwaith yn dechrau ar hen safle’r Baddondy yn ystod gwanwyn 2018. Disgwylir i’r ganolfan agor ddiwedd 2019, diolch i £23.8m o gyllid gan Lywodraeth Cymru sydd yn rhan o gytundeb cyllid dwy flynedd gyda Phlaid Cymru.
Yn ogystal â darparu gwasanaeth gofal iechyd modern, sy’n addas i’r diben i’r boblogaeth leol – gan gynnwys meddygfa, gwasanaeth deintyddol a fferyllfa – bydd y ganolfan newydd yn sicrhau gofal yn agosach at y cartref ac yn y gymuned.
Bydd amrywiaeth eang o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn cael eu darparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y trydydd sector, yr awdurdod lleol a sefydliadau partner.
Bydd y gymuned leol hefyd yn manteisio ar y canlynol:
- Gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
- Gwasanaeth Mân Anafiadau gyda chysylltiad telefeddygaeth at yr Adran Frys
- Cyfle i gynyddu’r ddarpariaeth o wasanaethau 7 diwrnod
- Mwy o wasanaethau diagnostig gan gynnwys asesiadau cyn llawdriniaethau
- Gwell canlyniadau i gleifion.
Dywedodd Cyfarwyddwr Sirol Cymru Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Peter Skitt:“Mae’n bleser cyhoeddi’r cyllid ar gyfer Canolfan Gofal Integredig Aberteifi, a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r gofal mae pobl ardal Aberteifi yn ei dderbyn, yn agosach i’w cartrefi ac yn eu cymunedau.
“Mae’n rhaid i bobl gael eu trin mewn canolfannau modern, ac fe fydd y prosiect hwn yn helpu i wella’r ddarpariaeth gofal iechyd yn y gymuned, y cyfan dan un to.”
Ychwanegodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bernardine Rees OBE:“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am gytuno’n ffurfiol i brosiect Canolfan Aberteifi. Dyma benllanw sawl blwyddyn o waith i sicrhau bod modd i ni ofalu am gleifion Aberteifi mewn ffordd ddiogel, gynaliadwy ac integredig drwy ddarparu canolfan sy’n addas i’r diben nawr ac ar gyfer y dyfodol.
“Rydyn ni’n cydnabod bod y broses gynllunio wedi bod yn go hir a llafurus ar adegau, ond roedd yn hanfodol gwneud yn siŵr fod y prosiect yn cael ei wneud yn iawn y tro cyntaf. Hoffwn i ddiolch unwaith eto i’n rhanddeiliaid – yn arbennig pobl leol, cleifion a’n staff – am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.”
“Rydyn ni’n cydnabod bod poblogaeth Aberteifi wedi bod yn amyneddgar iawn, ac mae’r ganolfan hon wedi wynebu heriau yn sicr, ond mae’r bwrdd iechyd nawr yn falch iawn o gael symud ymlaen gyda’r datblygiad pwysig hwn.
“Hoffwn i dalu teyrnged i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith, am eu hymrwymiad a’u gwaith caled i sicrhau bod y ganolfan newydd yn cyflawni ein nod o ddarparu gofal integredig mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy i’n poblogaeth leol.”