Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion cam nesaf ei hymrwymiad i fynd i'r afael ag ymwrthedd i wrthfiotigau (AMR) mewn anifeiliaid yng Nghymru, fydd yn golygu £2 miliwn o arian newydd a sefydlu grŵp cynghori newydd o arbenigwyr.

Gan adeiladu ar bum mlynedd o waith, mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi ei hadolygiad terfynol o Gynllun Gweithredu AMR 2019-2024 mewn Anifeiliaid a'r Amgylchedd - y rhaglen Gymreig gydgysylltiedig gyntaf i ddelio ag AMR mewn anifeiliaid ac yn yr amgylchedd.
Mae Grŵp Iechyd newydd AMR Cymru mewn Anifeiliaid wedi'i sefydlu i roi arweiniad gan arbenigwyr i gam nesa'r strategaeth, sy'n gweld Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn y meysydd iechyd cyhoeddus, ymchwil a gwyliadwriaeth, yn unol ag egwyddorion Un Iechyd.
Mae'r grŵp Iechyd Anifeiliaid wedi argymell Cynllun Rheoli AMR newydd mewn Anifeiliaid yng Nghymru (2025-2029), i gyd-fynd â Chynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
I gefnogi ein cynlluniau, rwyf wedi neilltuo £2 miliwn i gonsortiwm Arwain DGC (Defnydd Gwrthficrobaidd Cyfrifol).
Mae gan Arwain hanes o annog mesurau llwyddiannus ar gyfer rheoli AMR a bydd y cam newydd hwn o'r rhaglen yn golygu y gall Cymru barhau'n arweinydd byd o ran mynd i'r afael ag AMR.
Bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi gwaith monitro, hyfforddi ac ymgysylltu pwysig i sicrhau bod gwrthfiotigau'n parhau'n effeithiol er lles cenedlaethau'r dyfodol.
Bydd yr arian yn cefnogi cam tri'r rhaglen Arweiniad, a fydd yn cynnwys sawl ffrwd waith megis:
- cadw'r Rhwydwaith Hyrwyddwyr Presgripsiynu Milfeddygol mewn 44 o filfeddygfeydd Cymru
- parhau i gasglu data ar y defnydd o ddeunydd gwrthficrobaidd ar o leiaf 4,500 o ffermydd yng Nghymru
- monitro AMR mewn gwartheg a defaid drwy gymryd samplau ar ffermydd
- sefydlu academi AMR newydd i dargedu hyfforddiant i filfeddygon a ffermwyr
Tynnodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine, sylw at faint yr her:
Mae ymwrthedd i wrthfiotigau'n parhau i greu problemau a chost i gymdeithas yn ogystal ag i geidwaid anifeiliaid a milfeddygon.
Mae organebau sydd ag ymwrthedd i gyffuriau yn creu peryglon byw i bobl ac anifeiliaid a gallant ledaenu trwy'r amgylchedd, a dyna pam mae Un Iechyd - sy'n dod ag iechyd y cyhoedd, iechyd anifeiliaid ac iechyd yr amgylchedd ynghyd - mor bwysig.
Mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio, er mwyn taclo AMR, rhaid wrth gydweithio y tu hwnt i'r llywodraeth. Anogir ceidwaid anifeiliaid a milfeddygon i gydweithio ag awdurdodau i gyflawni nodau AMR Cymru yn y frwydr yn erbyn yr her fyd-eang hon.