Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfarwyddyd i gau Cinema & Co yn Abertawe am resymau’n gysylltiedig ag iechyd y cyhoedd.
O dan Ddeddf Coronafeirws 2020, mae gan Weinidogion Cymru bwerau i gymryd camau yn erbyn safleoedd penodol os ydynt o'r farn bod y safle'n peri risg i iechyd y cyhoedd.
Er mwyn cefnogi Cyngor Abertawe a diogelu iechyd y cyhoedd, mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi cyfarwyddyd o dan y Ddeddf i gau Cinema & Co yn Abertawe.
Yn ddiweddar, nododd yr awdurdod lleol hwnnw fod nifer o achosion o dorri'r Rheoliadau Coronafeirws ar y safle.
Cyflwynwyd hysbysiad i'r safle yn ei gwneud yn ofynnol iddo gau oherwydd y risg i iechyd y cyhoedd.
Gan fod y perchennog wedi dewis peidio â chydymffurfio â'r gofyniad cyfreithiol hwn, mae Gweinidogion Cymru wedi cymryd rhagor o gamau gorfodi.
Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud sylw pellach ar achosion cyfreithiol sy’n dal i fynd rhagddynt.