Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James wedi cyhoeddi cyllid newydd o hyd at £20 miliwn er mwyn helpu i sicrhau nad oes rhaid i unrhyw un sydd mewn llety brys yn ystod yr argyfwng coronafeirws ddychwelyd i’r stryd neu lety anaddas.
Mae pecyn ariannu cychwynnol Llywodraeth Cymru o £10 miliwn wedi golygu bod dros 800 o bobl wedi cael llety ers i’r cyfyngiadau ar symud ddod i rym. Yn flaenorol, roedd nifer o’r bobl hynny wedi gorfod cysgu ar y stryd, neu’n dioddef ‘digartrefedd cudd’ gan symud o soffa i soffa neu fyw mewn llety anaddas dros dro.
Nawr mae Llywodraeth Cymru am adeiladu ar y llwyddiant hwn i newid y ffordd o edrych ar ddigartrefedd yn y tymor hir.
Bydd gofyn i awdurdodau lleol lunio cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau a’r llety sy’n cael ei gynnig ar draws Cymru er mwyn helpu’r rhai sydd mewn llety dros dro ar hyn o bryd i symud ymlaen i gael cartrefi tymor hirach a sicrhau opsiynau urddasol ac addas i'r rhai sy'n wynebu digartrefedd yn y dyfodol. Bydd y cyllid ychwanegol, ynghyd â chymorth a chanllawiau yn eu helpu i gyflawni hyn.
Gan gyhoeddi’r cyllid cyn uwchgynhadledd rithiol ar ddigartrefedd gydag awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, gwasanaethau iechyd a’r trydydd sector, dywedodd Julie James:
Mae ymdrechion cyfunol y sector i letya pobl ddigartref yn ystod y pandemig wedi bod yn anhygoel. Doedd cael dros 800 o bobl oddi ar y stryd neu allan o lety anaddas ddim yn dasg hawdd, ond drwy gydweithio rydyn ni wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau’r bobl yma.
Serch hynny, dydy hyn ddim yn golygu ein bod ni wedi datrys digartrefedd yng Nghymru. Rydyn ni wedi llwyddo i leddfu’r sefyllfa dros dro, ond ein nod o hyd yw rhoi diwedd ar ddigartrefedd, a dydyn ni ddim am weld pobl yn cael eu gorfodi yn ôl ar y stryd.
Mae’r argyfwng hwn wedi rhoi cyfle unigryw i ni newid y gwasanaethau a newid bywydau er gwell, ac mae hynny’n hynod o gyffrous. Mae’r cyllid hwn, a’n dull gweithredu ar y cyd hyd yma yn rhoi hyder y gallwn ni nawr gymryd cam sylweddol tuag at gyflawni ein nod o roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Dywedodd Jon Sparkes, cadeirydd y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd a phrif weithredwr Crisis:
Mae’r argyfwng coronafeirws wedi effeithio ar bawb yn ein cymdeithas, ond mae pobl sy’n wynebu digartrefedd ymysg y mwyaf agored i niwed. Mae’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, cynghorau, gwasanaethau cyhoeddus Cymru ac elusennau i ymateb yn gyflym ac yn gynnar wedi llwyddo i ddiogelu nifer o bobl drwy ddarparu llety brys.
Mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn i nifer ohonom ni, ond mae’n dangos faint y gallwn gyflawni drwy weithio gyda’n gilydd. Nawr rhaid i ni ddechrau ar y cam nesaf ar fyrder i helpu pobl i gael cartrefi diogel a sefydlog, fel na fyddwn yn gweld pobl yn cael eu gorfodi yn ôl ar y stryd neu i lety dros dro sy’n anniogel.
Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau cadarnhaol iawn ar hyn o bryd, ac wrth i’r cyfyngiadau ar symud lacio, rwy’n edrych ymlaen yn y man at weld cynllun Llywodraeth Cymru i atal digartrefedd a rhoi diwedd arno yn llwyr, yn unol ag argymhellion y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd.
Dywedodd y Cynghorydd Andrea Lewis (Abertawe), Llefarydd CLlLC ar dai:
Rwy’n hynod o falch o’r gwaith mae’r gweithwyr proffesiynol ym maes tai mewn awdurdodau lleol wedi’i wneud, mewn cydweithrediad agos â landlordiaid cymdeithasol, darparwyr cymorth, y sector preifat a Llywodraeth Cymru, i ddarparu llety i bobl ddigartref a’r rhai sydd mewn llety anaddas ar yr adeg gythryblus hon. Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'n gilydd er mwyn helpu i sicrhau bod modd i ni ddal i ddarparu'r gefnogaeth hon, sydd ei hangen yn ddirfawr, ar ôl i'r argyfwng ddod i ben.