Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn darparu mwy na £500,000 ar gyfer prosiectau amgylcheddol a chymunedol drwy Gynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw (10 Mehefin), cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y bydd cyfanswm o 17 prosiect ledled Cymru yn elwa ar y grantiau a fydd rhwng £5,000 a £50,000 yn y rownd ddiweddaraf o gyllid grant a fydd yn cael ei ddyfarnu.

Bellach yn ei ail flwyddyn, mae'r cynllun yn ariannu prosiectau cymunedol ac amgylcheddol lleol sy'n hybu bioamrywiaeth, yn lleihau gwastraff neu’n gwella ardaloedd cymunedol mewn mannau y mae gwarediadau i safleoedd tirlenwi yn effeithio arnynt.

Ers ei lansio'r llynedd, mae cyfanswm o 44 o brosiectau bellach wedi cael arian drwy'r cynllun sy'n cael ei reoli gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a'i ariannu gan Dreth Gwarediadau Tirlenwi newydd Cymru a wnaeth ddisodli Treth Tirlenwi'r DU ym mis Ebrill 2018.

Dyma'r tro cyntaf i arian o'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi gael ei ddefnyddio i gefnogi cynllun ariannu penodol Gymreig.

Bydd arian ar gael i helpu prosiectau llwyddiannus sy'n ymdrin â'r amgylchedd, natur, ailddefnyddio, bioamrywiaeth a rheoli gwastraff.

I fod yn gymwys, rhaid i brosiectau fod o fewn pum milltir o safle tirlenwi, neu orsaf trosglwyddo gwastraff, ac yn anfon o leiaf 2,000 o dunelli o wastraff i safle tirlenwi bob blwyddyn.

Dyma rai o'r prosiectau sy'n cael arian:

  • bydd ardal chwarae awyr agored yn Waunarlwydd, Abertawe, yn denu plant o bob oed i'r pentref ac yn annog mwy o blant i fod yn actif ac i ddefnyddio'r parc drwy elwa ar £42,600 o gyllid.
  • bydd Prosiect Gwella Coetir Coedwig Môn yn Ynys Môn yn gweithredu rhaglen adfer i wella gwerth cynefinol coetir diffaith. Bydd yn elwa ar £69,944 o gyllid.
  • mae Llwybr Natur Cymunedol yr Hendy yn rhoi mynediad i blanhigion ac anifeiliaid Moryd Tywyn. Nod y prosiect yw sicrhau bod mannau gwyrdd yr Hendy yn cael eu defnyddio unwaith eto gan y gymuned drwy gyfres o sgyrsiau a theithiau gan wirfoddolwyr lleol a bydd yn elwa ar £43,813 o gyllid.
  • bydd prosiect Adfywio Camlas Abertawe – Treftadaeth y Cymoedd yn Ysbrydoli ein Dyfodol yn trawsnewid Camlas Abertawe i fod yn gyrchfan treftadaeth ac yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau hamdden. Bydd yn elwa ar £30,746 o gyllid.
  • bydd y prosiect Cadw Natur Mewn Cof yng Ngheredigion yn gweithio gyda'r gymuned leol i adfer a gwella bioamrywiaeth amryfal gynefinoedd yng Nghanolfan Cadwraeth Fferm Denmarc. Bydd y prosiect yn elwa ar £49,981 o gyllid.
  • bydd y Prosiect Cymunedol i Warchod Môr-wenoliaid yn y Gogledd yn elwa ar gyllid i gyflogi wardeniaid i amddiffyn y safle, i gyfrannu at astudiaeth wyddonol o fôr-wenoliaid ac i weithio gyda gwirfoddolwyr i warchod y safle nythu. Bydd y prosiect hwn yn elwa ar £49,999 o gyllid.
  • bydd y prosiect gwiwerod cochion iach yng Ngheredigion yn gweithio i arbed gwiwerod cochion yng Nghymru drwy ymgysylltu â gwirfoddolwyr lleol i gynnal arolygon o gynefinoedd a gwiwerod yng Nghoedwig Clywedog. Bydd y prosiect hwn yn elwa ar £49,999

Agorodd drydedd rownd Cynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ym mis Mai eleni, a'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 21 Gorffennaf. Bydd y prosiectau llwyddiannus yn y drydedd rownd yn gallu dechrau eu gwaith o 14 Hydref ymlaen.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Mae'n hyfryd gweld yr amrywiaeth eang o brosiectau sy'n cael cyllid drwy'r cynllun hwn. Maent yn fanteisiol nid yn unig i'r amgylchedd drwy brosiectau sy'n gwarchod ac adfer coetiroedd, ond maent hefyd yn helpu cymunedau ac yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb am y gwaith hwnnw. Mae hefyd yn dda gweld y manteision cadwraeth, gyda'r môr-wenoliaid a'r gwiwerod yn mwynhau cael mannau diogel i fyw ynddynt.

Wrth annog cymunedau cymwys i gyflwyno cais yn y drydedd rownd hon, dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd:

"Rwy'n falch bod cyllid o'r rownd ddiweddaraf yn parhau i gefnogi prosiectau lleol a fydd yn effeithio'n gadarnhaol ar ein hamgylchedd drwy'r ffordd y maent yn hybu bioamrywiaeth, yn lleihau gwastraff ac yn gwella ardaloedd cymunedol.

Nod y cynllun yw gwella llesiant cymdeithasol ac amgylcheddol mewn cymunedau y mae tirlenwi yn effeithio arnynt. Caiff ei reoli gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Dywedodd Catherine Miller, Rheolwr Cronfeydd Grant Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

"Mae'n wych gweld y cynllun yn denu pob math o ymgeisydd. Rydym yn gweld enghreifftiau gwych o weithgarwch a arweinir gan gymunedau yn deillio o brosiectau yn barod a bydd y cyllid newydd hwn yn sicrhau y bydd llawer o weithgarwch i helpu'r cymunedau hyn i fod yn llefydd gwell i fyw ynddynt, yn awr ac yn yr hirdymor.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 21 Gorffennaf 2019.