Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynlluniau cyllido wedi’u diweddaru ar gyfer nifer o brosiectau mawr ar gyfer y seilwaith trafnidiaeth wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddwyd y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol yng Ngorffennaf 2015. Mae’n nodi sut y bwriadwn gyflawni’r canlyniadau a osodir allan yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru o 2015 ymlaen. Mae'r Cynllun yn cynnwys yr holl ymyriadau trafnidiaeth sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Diweddariad 2017 hwn i'r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol yn rhoi gwybodaeth am y cynnydd a wnaed ers ei gyhoeddi ac yn rhoi diweddariad ar ein rhaglen am y tair blynedd nesaf a thu hwnt. Mae’r Cynllun hwn hefyd yn amlinellu:

  • Yr amserlen ar gyfer ariannu a darparu’r cynlluniau a gyflawnir gan Lywodraeth Cymru
  • Yr amcan-wariant sydd ei angen i ddarparu’r cynlluniau
  • Y ffynonellau cyllid tebygol ar gyfer darparu’r cynlluniau.

Nid yw’r Cynllun yn ddogfen bolisi ac nid yw ychwaith yn ceisio blaenoriaethu pa gynlluniau sydd i fynd yn eu blaenau. Mae rhai o’n prosiectau’n cael eu cyflawni, mae rhai yn y cam adeiladu ac eraill wrthi'n cael eu datblygu. Mae hon yn ddogfen fyw a bydd yr amserlen ar gyfer cyflawni yn parhau i gael ei hadolygu a’i diweddaru wrth i’r proffil cyflawni ar gyfer cynlluniau penodol ddod yn gliriach.

Meddai Ken Skates Ysgrifennydd y Cabinet:

“Dwi’n falch o’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud i ddarparu rhaglen uchelgeisiol o ymyraethau trafnidiaeth.  Rydym eisoes wedi darparu nifer o gynlluniau proffil uchel gan gynnwys Cam 1 y Metro; diweddaru twneli’r A55; gwaith deuoli ar yr A465 o Brynmawr i Dredegar - Adran 3 ffordd ‘Blaenau’r Cymoedd’; Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae yn ogystal â nifer o fesurau llai.

“Mae’r rhaglen dros y tair blynedd nesaf yn un uchelgeisiol sy’n cynnwys ymyraethau pwysig megis cyflwyno cysyniad y metro i Ogledd-ddwyrain Cymru a Bae Abertawe a Chymoedd y Gorllewin.

“Mae dulliau cynaliadwy o deithio hefyd yn amlwg yn ein rhaglen sy’n targedu gorsafoedd rheilffordd newydd, gwelliannau i wasanaethau bws a rheilffordd a hyrwyddo cerdded a beicio a thrafndiaeth integredig.

“Rydym wedi canolbwyntio ar sicrhau gwerth am arian a sicrhau effeithlonrwydd ym mhob un o’n cynlluniau trafnidiaeth.  Mae’r cyllid sydd ar gael ar gyfer ein Cynllun yn parhau i fod yn heriol ond dwi’n hyderus bod y buddsoddiadau yr ydym yn eu cynnig yn arwain at newid fesul cam yn ein system drafnidiaeth.”