Wrth i Fil yr Undebau Llafur fynd ar ei hynt drwy'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod y trefniadau presennol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn parhau'n ddigyfnewid.
Wrth i Fil yr Undebau Llafur fynd ar ei hynt drwy'r Cynulliad Cenedlaethol, bydd Llywodraeth Cymru yn diwygio'r Bil yn ystod Cam2, er mwyn sicrhau bod y trefniadau presennol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn parhau'n ddigyfnewid.
Unwaith y daw Bil yr Unedau Llafur (Cymru) yn ddeddf, bydd yn gwrthdroi effeithiau rhai o'r darpariaethau yn Trade Union Act 2016 Llywodraeth y DU, a hynny er mwyn diogelu a hyrwyddo’r model llwyddiannus sydd gennym yng Nghymru o weithio ar sail partneriaethau cymdeithasol.
Byddai Bil Cymru, sydd wedi'i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru, yn datgymhwyso rhannau o Ddeddf y DU, i'r graddau y maent yn ymdrin â gwasanaethau cyhoeddus fel y GIG, addysg, llywodraeth leol a'r gwasanaeth tân – sydd i gyd yn gyfrifoldebau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwnaed y penderfyniad i gyflwyno gwelliant i'r Bil ar ôl i Lywodraeth y DU gynnal ymgynghoriad am ddirymu'r sefyllfa gyfreithiol bresennol lle nad yw cyflogwyr yn cael defnyddio gweithwyr dros dro yn lle staff sy'n gweithredu'n ddiwydiannol.
Byddai hynny'n gymwys i weithredu diwydiannol gan weithwyr ym mhob sector, gan gynnwys gweithwyr a gyflogir yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad, gan ofyn a ddylid cadw’r sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig. Ar ôl yr ymgynghoriad hwnnw, mae wedi penderfynu diwygio Bil yr Undebau Llafur er mwyn atal Llywodraeth y DU rhag deddfu yn y maes hwn.
Wrth siarad cyn y ddadl Cam 1 a fydd yn cael ei chynnal heddiw, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Rydyn ni wedi dweud ers tro byd bod safbwynt Llywodraeth y DU yn hyn o beth yn wrthgynhyrchiol ‒ bydd yn arwain at anghydfodau hirfaith, mwy o wrthdaro a mwy o darfu ar rai o'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol sy'n cael ei defnyddio gan y bobl fwyaf agored i niwed.
"Er nad yw Llywodraeth y DU wedi deddfu ar weithwyr asiantaethau eto, rydyn ni wedi cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau, os bydd hi'n dewis gwneud hynny, na fyddai unrhyw effaith ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig ac y byddai'r sefyllfa gyfreithiol bresennol yn parhau’n ddigyfnewid. Rydyn ni'n gweithredu er mwyn cadw'r status quo.
"Mae'n Bil ni a'r gwelliant rydyn ni'n ei gyflwyno wedi cael cefnogaeth glir iawn Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad, ac mae cefnogaeth gref i'r traddodiad balch sydd gennym yma yng Nghymru o weithio ar sail partneriaethau cymdeithasol adeiladol Dydyn ni ddim yn barod i weld y bartneriaeth honno'n cael ei pheryglu.