Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil i herio Trade Union Act Llywodraeth y DU, a fydd yn cael effaith ‘niweidiol ac yn achosi rhwygiadau’
Mae’r GIG, addysg, llywodraeth leol, a’r gwasanaeth tân yn enghreifftiau o wasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u datganoli ac maent felly, yn gyfrifoldeb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Byddai Bil Llywodraeth Cymru yn datgymhwyso’r rhannau hynny o Ddeddf y DU sy’n ymwneud â’r gwasanaethau hynny.
Os caiff y Bil ei basio gan y Cynulliad, bydd y darpariaethau a ganlyn yn cael eu gwrthdroi: y ddarpariaeth sy’n pennu trothwy lle mae’n ofynnol i 40% o’r rheini sy’n bwrw pleidlais bleidleisio o blaid streicio, darpariaethau’n ymwneud â rhoi amser i undebau llafur wneud gwaith yr undeb (amser cyfleuster), ac amodau ar ddidynnu taliadau aelodaeth undebau llafur o gyflogau (didynnu drwy’r gyflogres).
Ers i’r Trade Union Act gael ei chyflwyno, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth agos â’r undebau llafur a chyflogwyr ar ei chynigion hi.
Cyn i’r Bil gael ei gyflwyno, dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd dros Lywodraeth Leol:
“Rydyn ni wedi dweud o’r cychwyn cyntaf nad oedd angen y Trade Union Act ac y byddai’n arwain at fwy o wrthdaro rhwng cyflogwyr a gweithwyr, gan danseilio gwasanaethau cyhoeddus a’r economi yn hytrach na’u cefnogi.
“Mae partneriaethau cymdeithasol yn seiliedig ar barch at waith yr undebau llafur ac at hawliau eu haelodau. Yng Nghymru, mae cyflogwyr a’r mudiad undebau llafur yn gweithio gyda’i gilydd mewn ffordd adeiladol. Dydyn ni ddim yn barod i adael y Trade Union Act danseilio’r ffordd o weithio rydyn ni wedi’i meithrin yr ochr hon i’r ffin.
“Nid yn unig y mae Deddf y DU yn cael effaith niweidiol ac yn achosi rhwygiadau, ond mae hefyd yn ymyrryd â pholisïau sydd wedi’u datganoli ac â phwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
“Byddai adrannau allweddol ar drothwyon o ran canran y pleidleisiau, amser cyfleuster, a didynnu drwy’r gyflogres, yn golygu y byddai’n anoddach darparu gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru, gan newid y cydbwysedd yn y berthynas rhwng cyflogwyr ac undebau.
“Nod y Bil hwn yw ceisio sicrhau na fydd darpariaethau niweidiol Deddf y DU yn gymwys i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.”
Wrth siarad ar ôl i’r Bil gael ei gyhoeddi, dywedodd Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
“Mae’r Bil pwysig hwn yn un i’w groesawu’n fawr, a’i hanfod yw amddiffyn gallu’r undebau, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
“Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati heddiw i roi partneriaeth ar waith. Addawodd Prif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet y byddent yn sefyll yn gadarn gyda gweithwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac maen nhw wedi gwireddu’r addewid hwnnw.
“Mae’n ffordd ni o weithredu yma yng Nghymru yn llwyddo i atal anghydfod a gweithredu diwydiannol. Heb y Bil hwn, byddai Trade Union Act y DU yn troi’r cloc yn ôl ar ddatganoli ac yn bygwth tanseilio’n ffordd ni o weithredu ar sail partneriaethau cymdeithasol. Rhaid i Lywodraeth San Steffan barchu ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru yn hytrach na cheisio ymyrryd mewn gwasanaethau na chawson nhw eu hethol i’w rhedeg.”