Neidio i'r prif gynnwy

Mae mawndiroedd Cymru ar drywydd i adferiad diolch i raglen weithredu a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn rhagori ar ei thargedau ymlaen llaw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wedi'i sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2020, mae'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn cael ei chyflwyno gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Roedd gan y rhaglen bum mlynedd dargedau uchelgeisiol o adfer 3,000 hectar o fawndiroedd - sy'n cyfateb i fwy na 3,000 o gaeau rygbi.

Heddiw, cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb am Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies ein bod wedi cyrraedd y targedau 12 mis yn gynnar.

Mae'r gwaith hwn wedi diogelu mwy na 1.6m tunnell o garbon wedi'i storio, gan arwain at amcangyfrif o 8,000 tunnell yn llai o allyriadau carbon bob blwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i allyriadau 5,700 o geir!

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: 

"Rwy'n falch iawn o gadarnhau ein bod wedi cyrraedd ein targedau uchelgeisiol i adfer mawndiroedd ar gyfer Ebrill 2025 a hynny ynghynt na'r disgwyl. Mae hwn yn gam enfawr ymlaen i hinsawdd a natur yng Nghymru.

"Mae mawndiroedd mor bwysig. Maent yn storio chwarter holl garbon y pridd mewn dim ond pedwar y cant o'n harwynebedd tir, yn lleihau'r risg o dân gwyllt ac maent yn hanfodol ar gyfer rhywogaethau planhigion prin fel mwsogl Sphagnum, sy'n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o wrthsefyll llifogydd a sychder a dal carbon.

"Mae Cymru yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur ac mae'r gwaith hwn yn mynd yn bell i sicrhau y gall y cynefinoedd gwerthfawr hyn oroesi ac addasu mewn hinsawdd sy'n newid.

"Llongyfarchiadau i bawb sy'n rhan o'r gwaith hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at ddilyn y pumed tymor adfer i weld faint yn rhagor y gallwn ni wneud."

Dywedodd Mannon Lewis, Rheolwr Prosiectau Strategol Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n arwain y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd: 

"Mawndiroedd yw ein hadnodd tir mwyaf gwerthfawr ar gyfer storio carbon, ac mae eu hadfer yn ateb effeithiol sy'n seiliedig ar natur i fynd i'r afael â'r argyfyngau Natur a Hinsawdd.

"Mae adfer bioamrywiaeth mawndiroedd yn agwedd hanfodol ar adfer natur ac yn sicrhau bod carbon yn cael ei storio’n effeithiol am gyfnod hir a bod y nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu rhyddhau i'r atmosffer yn cael eu rheoleiddio, yn ogystal â sicrhau manteision eraill i’r ecosystem.

"Yn ogystal â'r hectarau a gyflawnwyd, mae'r Rhaglen Genedlaethol wedi darparu'r arweinyddiaeth strategol sydd ei hangen ar bartneriaid sy'n gweithio ledled Cymru i gynllunio ar gyfer cyflymu'r ddarpariaeth i'r dyfodol."

Mae rhai mawndiroedd yng Nghymru dros 10,000 mlwydd oed ac wedi’u cynnwys yng nghofnod amgylcheddol hanesyddol Cymru.

Maent yn hidlo ac yn cyflenwi dŵr yfed i'n cronfeydd dŵr gyda llawer iawn o ddŵr yfed yn cychwyn ar ei daith mewn corsydd mawn ucheldirol.

Mae gwaith y rhaglen weithredu wedi'i ategu gan brosiectau mawndiroedd eraill gan gynnwys y rhai a ariennir drwy EU LIFE, Parciau Cenedlaethol, y Loteri Treftadaeth a pherchnogion tir.

Gyda'i gilydd, mae'r rhain wedi cyflawni gweithgarwch adfer ar draws 1,000 hectar pellach ers 2020.

Gallwch ddysgu rhagor am y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd ar Cyfoeth Naturiol Cymru.