Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi agor y broses recriwtio ar gyfer swydd Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru o fis Ionawr 2022.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae hon yn swydd, strategol, ddylanwadol ac uchel ei phroffil yn y sector diwylliannol yng Nghymru.

Bydd y Llywydd newydd yn ymuno â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ystod cyfnod o newid, wrth i ganfyddiadau'r adolygiad wedi'i deilwra, a gafodd ei gynnal yn 2020, gael sylw ac wrth i'r llyfrgell ddechrau rhoi ei chynllun strategol pum mlynedd newydd ar gyfer 2021 i 2026 ar waith.

Mae'r Llywydd yn atebol i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, ac mae'n gyfrifol am berfformiad y Llyfrgell Genedlaethol ac am gyflawni ei blaenoriaethau strategol.

Ar gyfer y cyfnod cyn i'r Llywydd newydd gael ei benodi, mae Ashok Ahir wedi cael ei benodi yn Llywydd Dros Dro newydd Bwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

"Mae Ashok yn gaffaeliad gwerthfawr i'r Bwrdd, a hoffwn i ddiolch iddo fe am gytuno i gyflawni'r rôl wrth inni recriwtio Llywydd newydd.

“Hoffwn i ddiolch hefyd i Meri Huws am ei hymrwymiad fel Llywydd dros dro. Yn ystod ei chyfnod yn y rôl mae Meri wedi bod yn ffrind, eiriolwr a hyrwyddwr y Llyfrgell yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf heriol yn hanes y sefydliad.

“Diben Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth amrywiol yn hygyrch i bawb at ddibenion dysgu, ymchwilio a mwynhau, ac rydyn ni’n chwilio am unigolyn eithriadol sy'n gallu gwella cyrhaeddiad, dylanwad ac effaith y Llyfrgell yng Nghymru, ledled y DU, ac yn rhyngwladol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol. Rhaid i bob ymgeisydd ddangos ymrwymiad clir i Gymru ddwyieithog. Y dyddiad cae ar gyfer ceisiadau yw 13 Hydref 2021 am 18:00.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn recriwtio Is-lywydd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

I wneud cais ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru.