Bydd Llywodraeth Cymru yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod a Diwrnod y Rhuban Gwyn.
Ar 25 Tachwedd, mae'r byd yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod. Mae hefyd yn Ddiwrnod y Rhuban Gwyn sy'n gyfle i ystyried sut y gallwn ni, yng Nghymru, wneud trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol. Nid yw Llywodraeth Cymru o'r farn bod trais yn erbyn menywod yn rhywbeth anochel ac rydyn ni wedi ymrwymo i'w atal.
Ar 25 Tachwedd, bydd menter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Cadw yn trefnu bod delweddau o'r Rhuban Gwyn yn cael eu taflunio i Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd a Chestyll Caerffili, Caernarfon a Chonwy o 5 i 8 y nos er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r diwrnod.
Cynhelir hefyd ddigwyddiad trawsbleidiol amser cinio yn Oriel y Senedd ar 21 Tachwedd, lle bydd yna drafodaeth ar sut i ddarbwyllo dynion a bechgyn i herio pob math o drais yn erbyn menywod. Yn ystod y noson, cynhelir gwylnos i'r pleidiau i gyd yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.
Ar 23 Tachwedd, bydd Arweinydd y Tŷ a Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yn cymryd rhan mewn taith gerdded drwy Gaerfyrddin, a drefnir gan Sefydliad y Merched. Mae Joyce Watson AC wedi trefnu taith gerdded drwy Harlech ar 24 Tachwedd, gan orffen yng Nghastell Harlech.
Mae'r Cenhedloedd Unedig yn disgrifio trais yn erbyn menywod fel pandemig byd-eang. Mae'n broblem ddifrifol dros ben - i'r byd ac i Gymru. Ymhlith pethau eraill, mae'n cynnwys cam-drin domestig, trais rhywiol, camfanteisio rhywiol, trais ar sail anrhydedd, priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod.
Dywedodd Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, Julie James, sydd nawr â chyfrifoldeb am y gwaith pwysig hwn:
"Mae'n fraint imi gael ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros y gwaith pwysig hwn yn dilyn marwolaeth drasig fy nghydweithiwr a'm ffrind, Carl Sargeant. Roedd yr agenda hon yn aruthrol bwysig iddo fe ac rwy'n benderfynol o barhau i adeiladu ar y gwaith pwysig a wnaeth, gyda'r un brwdfrydedd ac ymrwymiad."
"Mae Llywodraeth Cymru wedi'i hachredu'n sefydliad Rhuban Gwyn ers 2014 a, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi arwain ymateb cenedlaethol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Fe wnaethon ni waith arloesol drwy gyflwyno Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn 2015. Fe grewyd y ddeddfwriaeth hon, sy'n dipyn o garreg filltir, i ddod â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru i ben; i ddiogelu'r rheini sydd mewn perygl ac atal camdriniaeth rhag digwydd yn y lle cyntaf."
"Rydyn ni'n ymfalchïo yn yr hyn rydyn ni wedi'i gyflawni hyd yn hyn, ond mae mwy eto i'w wneud".
"Rhaid inni barhau i gydweithio er mwyn newid agweddau, fel bod pawb yn deall nad yw cam-drin menywod yn ymddygiad derbyniol ac na wnawn ni ei oddef yng Nghymru."
"Drwy godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a'u heffaith, gallwn barhau i greu cymdeithas nad yw'n goddef y gweithredoedd atgas hyn".
"Rhaid inni barhau i weithio tuag at Gymru lle gall pawb fyw heb ofn".