Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw agorwyd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, swyddfeydd newydd Boots Hearingcare yn Llandudno. Cawsant eu datblygu gyda £250,000 o cymorth gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Boots Hearingcare, a'r cwmni a'i rhagflaenodd, David Ormerod Hearing Centres Ltd, wedi bod ar y safle yn Llandudno ers 2012, pan oedd ychydig dros 20 o staff yn gweithio yn y Swyddfa Gymorth.  

Chwe blynedd yn ddiweddarach ac ar ôl cael cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru, mae 90 o bobl yn gweithio yn y swyddfeydd erbyn hyn, gan gefnogi rhwydwaith o 500 o ganolfannau Boots Hearingcare ym mhob rhan o'r DU.

Y Swyddfa Gymorth yw canolbwynt busnes Boots Hearingcare, ac mae'n cael ei gwerthfawrogi'n fawr yn yr ardal leol am y swyddi sy’n cael eu cynnig yno. Erbyn  hyn, mae mwy o le ar gyfer desgiau yn y swyddfeydd, sydd wedi cael eu hadnewyddu a'u gweddnewid gan gwmnïau lleol. Mae hynny'n golygu bod y busnes nid yn unig yn gallu recriwtio rhagor o bobl o'r rhanbarth, ond ei fod hefyd yn gallu cynnig gwell amgylchedd gwaith a phrofiadau i'r gweithwyr sydd yno eisoes.

Dywedodd ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

Dwi wrth fy modd bod cymorth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru wedi helpu Boots Hearingcare i ehangu ei swyddfeydd yn Llandudno, i aros yng nghanol y dref ac i ddiogelu a chreu swyddi.  

Mae'r cymorth rydyn ni wedi ei roi i Boots Hearingcare yn gwbl gydnaws â'n Cynllun Gweithredu ar yr Economi, sy'n ceisio helpu i sicrhau bod technolegau newydd yn cael eu datblygu a'u mabwysiadu, a bod pob rhan o Gymru yn gallu manteisio ar ffyniant economaidd.

Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i'r cwmni a'r gweithwyr ar ôl i’w cartref gael ei wella a'i ehangu.

Dywedodd Rob Skedge, Rheolwr Gyfarwyddwr Boots Hearingcare:

Mae'r buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn tystio nid yn unig i'w hymrwymiad i helpu busnes lleol, ond hefyd i'w hymrwymiad i'w helpu i dyfu. Rydyn ni'n hynod falch o fedru ehangu mwy ar ein tîm yn Swyddfa Gymorth Boots Hearingcare ac rydyn ni'n edrych 'mlaen at ein dyfodol yma yn Llandudno.

Cafodd y gwesteion a ddaeth i'r seremoni gyfle i ddysgu mwy am y gwaith adnewyddu drwy gael eu tywys ar daith o amgylch y swyddfeydd. Fe'u gwahoddwyd hefyd i wrando ar weithwyr o Swyddfa Gymorth Boots Hearingcare yn sôn am yr effaith gadarnhaol y mae'r newidiadau wedi'u cael ar eu profiad yno. 

Yn ystod y seremoni, dadorchuddiodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, blac i nodi achlysur ailagor y Swyddfa Gymorth yn swyddogol.