Neidio i'r prif gynnwy

Bydd buddsoddiad gan Morgan Advanced Materials (Morgan) a Llywodraeth Cymru yn y dechnoleg cynhyrchu ddiweddaraf yn ei ffatri yn Abertawe.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r buddsoddiad yn creu cyfleoedd i dargedu'r farchnad Gweithgynhyrchu Cyfarpar Gwreiddiol. Rhagwelir y bydd galw’r farchnad honno’n dyblu yn y 2 neu 3 blynedd nesaf.

Mae'r buddsoddiad yn cynnwys pecyn cyllid gwerth £1.4miliwn gan Lywodraeth Cymru ac yn sêl bendith i’r 100 o weithwyr crefftus sy’n gweithio yn y ffatri. Mae'r pecyn cyllid yn cynnwys Grant Datblygu Eiddo gwerth £450,000 i dalu am gyfuno ac ad-drefnu'r prosesau gweithgynhyrchu ar y safle ac addasu rhai adeiladau.

Bydd Abertawe nawr yn parhau i gynhyrchu'r ddau brif fath o gynnyrch a ddefnyddir i gysylltu gwifrau trydan â threnau a chraeniau. Bydd hefyd yn cadw swyddogaethau cymorth gan gynnwys gwerthiannau ac adnoddau technegol ac ariannol

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates, bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn hanfodol i sicrhau'r buddsoddiad hwn ac fe wnaeth ei ddisgrifio fel prosiect hynod o bwysig ar gyfer y sector deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch yng Nghymru.

Meddai: 

"Rwy'n hynod o falch mai ein cyllid oedd y sbardun a wnaeth sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn digwydd yng Nghymru a'n bod ni'n gallu cefnogi'r tîm rheoli lleol."

"Nid yn unig y mae'n diogelu swyddi crefftus lleol ac yn cadw arbenigedd yng Nghymru, ond mae hefyd yn cyflwyno technoleg newydd i'r safle. Mae Morgan Advanced Materials yn gwario oddeutu £600,000 bob blwyddyn yn y gadwyn gyflenwi leol a bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn cynnal swyddi a busnesau gan greu manteision sylweddol i gymunedau lleol."

Dywedodd Pete Raby, Pennaeth Morgan Advanced Materials:

"Sail ein penderfyniad i fuddsoddi ymhellach yn Abertawe yw’n tîm lleol cadarn sy'n helpu i gyflwyno technoleg gweithgynhyrchu o'r radd flaenaf i'n cwmni a'r sector. Mae cefnogi ein cymunedau lleol yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac rydym wrth ein bodd y bydd y buddsoddiad yn creu cyfleoedd newydd i'r gymuned leol yn Abertawe yn ogystal ag i economi Cymru gyfan.” 

Mae cyllid Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhaglen buddsoddi cyfalaf a fydd yn arwain at newid sylweddol mewn technoleg, moderneiddio'r broses cynhyrchu, arbed costau sylweddol, a chynyddu cynhyrchiant ag effeithlonrwydd. Bydd hefyd yn creu marchnadoedd lleol ar gyfer deunyddiau crai.