Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru’n cadarnhau ei hymrwymiad i ddarparu £1 biliwn o fuddsoddiad mewn seilwaith cyfalaf drwy gyllid arloesol gan ddefnyddio’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol newydd (MIM).

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn digwyddiad heddiw, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething a’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn  lansio MIM i bartneriaid posibl ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y tri chynllun sy’n cael eu datblygu.

Mae’r MIM newydd wedi'i gynllunio’n ofalus gan Lywodraeth Cymru dros y 18 mis diwethaf i ariannu prosiectau cyfalaf mawr tra’n hyrwyddo budd y cyhoedd a gwarchod arian cyhoeddus.

Caiff y tri phrosiect cyfalaf mawr eu darparu drwy'r model – cwblhau gwaith deuoli’r  A465 o Dowlais Top i Hirwaun; Canolfan Ganser Felindre newydd a chyfran sylweddol o gam nesaf rhaglen addysg ac ysgolion yr 21ain ganrif.

Yn y digwyddiad heddiw yng Nghymuned Ddysgu Penarth, siaradodd partneriaid o'r sectorau cyllid ac adeiladu am y model a'r tri chynllun cyfalaf, gan gynnwys y darpariaethau sicrwydd a’r amserlenni datblygu.

Dywedodd yr Athro Drakeford:

"Dros y 18 mis diwethaf, rydyn ni wedi gweithio'n agos â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac arbenigwyr ym Manc Buddsoddi Ewrop i ddylunio’n ofalus a sicrhau ein Model Buddsoddi Cydfuddiannol. Fe'i cynlluniwyd i hyrwyddo a gwarchod buddiannau cyhoeddus, tra'n darparu hefyd y cymysgedd iawn o gymhellion i bartneriaid preifat.

"Rwy'n falch ein bod wedi cael cymaint o ddiddordeb yn y digwyddiad heddiw gan bartneriaid preifat posibl. Mae'n arwydd clir bod gan y farchnad ddiddordeb mewn gweithio ochr yn ochr â’r sector cyhoeddus ar y tri chynllun pwysig hyn.

"Rydyn ni’n parhau i wynebu heriau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen mewn cyllid cyhoeddus felly mae'n hanfodol bwysig inni ddatgloi’r holl gyfleoedd i hybu buddsoddiad mewn seilwaith. Bydd y model partneriaeth cyhoeddus-preifat newydd hwn yn darparu hwb i fuddsoddiad mewn seilwaith cyfalaf o £1bn ar gyfer cynlluniau hanfodol ym maes trafnidiaeth, iechyd ac addysg."