Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau ei hymrwymiad i wneud Cymru yn 'hafan ddiogel' i bobl LHDTC+ drwy ddarparu'r gwasanaeth cymorth personol cyntaf o'i fath i'r rheini sy'n dioddef ac yn goroesi arferion trosi, meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ar Ddiwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Trawsffobia a Deuffobia.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi partneru â Galop i ddarparu'r gwasanaeth newydd a fydd hefyd yn cynnig gwybodaeth ac adnoddau hanfodol i sefydliadau sy'n ceisio cefnogi pobl LHDTC+.

Mae 'arferion trosi' yn cyfeirio at unrhyw fath o driniaeth, ymddygiad neu seicotherapi sy'n ceisio newid cyfeiriadedd rhywiol unigolyn neu atal hunaniaeth rhywedd unigolyn.

Mae rhwydwaith cynyddol o sefydliadau wedi addo helpu goroeswyr a phobl sy'n agored i arferion trosi LHDTC+ i gael cymorth.

Mae disgwyl i'r gwasanaeth cymorth personol gael ei lansio yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol: 

Y gwasanaeth newydd hwn yw'r cyntaf o'i fath i Gymru, ac fe fydd yn cefnogi goroeswyr a dioddefwyr arferion trosi.  Mae'n rhan o'n hymrwymiad ehangach i wella hawliau pobl LHDTC+.

Mae gan sefydliadau ledled Cymru rôl hanfodol wrth weithio gyda ni i gefnogi'r gymuned LHDTC+, ac rwy'n eu hannog i gofrestru eu diddordeb i'n helpu ni.

Mae'r gwaith yn parhau i sicrhau bod camau ar waith i'r gwasanaeth fod ar gael yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Amy Roch, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Galop:

Rydyn ni'n falch iawn o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth uniongyrchol i ddioddefwyr arferion trosi LHDTC+ yng Nghymru.

Mae ymchwil Galop yn dangos bod y gamdriniaeth o arferion trosi yn broblem sylweddol sy'n parhau. Mae trawma seicolegol, emosiynol a chorfforol arferion trosi yn cael effeithiau difrifol a hirdymor ar eu dioddefwyr. Gwyddom fod angen cymorth arbenigol hirdymor ar oroeswyr y gamdriniaeth hon i'w helpu i symud ymlaen o'r hyn sydd wedi digwydd iddynt, ac i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn gallu cyflawni eu potensial.

Rydyn ni'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am sicrhau bod gan bobl LHDTC+ sydd wedi goroesi arferion trosi rywle i droi am gymorth.

Dywedodd Tony Smith, Prif Swyddog Llywodraethu Cymdeithas Adeiladu'r Principality:

Rydyn ni'n falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill, yn eu hymdrechion i wneud Cymru yn hafan ddiogel i bawb.

Yng Nghymdeithas Adeiladu'r Principality, rydyn ni o'r farn bod gweithlu amrywiol, sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu, yn allweddol i'n llwyddiant fel busnes. Ein nod yw sicrhau ein bod ni'n darparu gweithle cynhwysol i'n holl gydweithwyr un sy'n dathlu amrywiaeth, hunandderbyn ac ymdeimlad o berthyn.

Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr arferion trosi yn deillio o Gynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru yn 2023, ac yn sgil hwnnw sefydlwyd Y Gweithgor ar Wahardd Arferion Trosi.

Mae'r Gweithgor yn cynghori ar gamau gweithredu arfaethedig i wahardd arferion trosi yng Nghymru. Lluniwyd y Cynllun Gweithredu fel rhan o gytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ac mae'n pennu nodau'r llywodraeth i wella pob agwedd ar hawliau ac amddiffyniadau pobl LHDTC+ yng Nghymru.