Bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cael 90 o gerbydau gweithredol newydd yn sgil buddsoddiad o £8.2m gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y buddsoddiad yn golygu y gall y gwasanaeth brynu:
- 18 Ambiwlans Brys
- 67 o gerbydau i gludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys
- Pum cerbyd arbenigol i Dimau Ymateb mewn Ardaloedd Peryglus (HART) yn lle’r cerbydau presennol.
Ers 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron i £45m mewn ambiwlansys newydd i Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
Dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd:
“Mae galw cynyddol Wasanaeth Ambiwlans Cymru, ac mae’r galw hwnnw’n dal i dyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Bydd y buddsoddiad o £8.2 miliwn, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, yn caniatáu i Wasanaeth Ambiwlans Cymru barhau i uwchraddio ei gerbydau presennol, er mwyn gallu darparu’r gofal gorau i bobl Cymru.
“Bydd hyn yn sicrhau bod y gwasanaeth ambiwlans yn gallu anfon y clinigwr mwyaf priodol yn y cerbyd mwyaf priodol, gan sicrhau bod pobl yn cael yr ymateb cyflymaf posibl.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Richard Lee:
“Rydym yn falch o allu dweud bod gennym ni yma yng Nghymru rai o’r ambiwlansys diweddaraf sydd â’r cyfarpar gorau er budd staff a chleifion.
“Beth bynnag fo'r achos; ymateb i alwadau brys, cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys i apwyntiadau neu roi gofal achub bywyd mewn achosion difrifol, mae’n hanfodol bod gennym gerbydau modern sy’n gallu ymateb i anghenion pawb.
“Hoffem roi diolch i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth barhaus wrth i ni anelu at wella’r gwasanaeth ac ansawdd y gofal sy’n cael ei roi i’n cleifion.”