Neidio i'r prif gynnwy

Bydd dros £17 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn cael ei fuddsoddi mewn adfywio canol trefi a sicrhau bod cartrefi gwag yn ardal Tasglu'r Cymoedd yn cael eu defnyddio unwaith eto.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Chadeirydd Tasglu'r Cymoedd, Lee Waters, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn neilltuo £10 miliwn i gyflwyno cynllun cartrefi gwag llwyddiannus ar draws ardal Tasglu'r Cymoedd, gyda ffiniau ardal y Tasglu bellach yn cael eu hestyn i gynnwys Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman.  

Dywedodd Lee Waters:  

Drwy ein gwaith ymgysylltu â chymunedau yn y cymoedd, rydyn ni wedi clywed pryderon ynghylch nifer y cartrefi gwag a'r effaith negyddol y gallan nhw ei chael yn aml ar y gymuned ehangach. 

Gall golwg hyll cartrefi gwag fod yn falltod ar gymunedau a pheri gofid i drigolion – maen nhw’n hefyd yn gallu arwain at drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

Rydyn ni’n gwybod hefyd fod cartrefi gwag yn faich ariannol i berchnogion y cartrefi ac i'r cyngor – yn ogystal â bod yn gyfle a gollwyd i ddarparu'r tai fforddiadwy sydd eu hangen yn fawr iawn ar bobl leol. 

Am y rheswm hwn rwyf wedi penderfynu ehangu Cynllun Grant Cartrefi Gwag llwyddiannus Rhondda Cynon Taf i holl ardal Tasglu'r Cymoedd. Bydd hyn yn helpu i adfywio cymunedau a darparu rhagor o ddewis a chartrefi addas ar gyfer trigolion.

Bydd y penderfyniad hwn yn helpu i hybu economïau cymunedau ein cymoedd hefyd. Mae cynllun Rhondda Cynon Taf wedi dangos inni fod ymgeiswyr yn dewis busnesau lleol i wneud eu gwaith adfywio. Rydyn ni am gefnogi ac annog hyn ymhellach, wrth hefyd ysgogi datgarboneiddio a mesurau effeithlonrwydd ynni eraill.

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein bod ni hefyd yn estyn ffiniau Tasglu'r Cymoedd i gynnwys Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman. Yn ddiwylliannol mae'r ardaloedd hyn yn rhan bwysig o faes glo De Cymru, ac mae ein penderfyniad yn golygu y gallan nhw elwa ar waith parhaus i ysgogi buddsoddi a chyfleoedd ar draws y cymoedd, gan gynnwys drwy ein Cynllun Cartrefi Gwag newydd.

I fod yn gymwys, byddai'n rhaid i gartrefi fod yn wag ers 12 mis. Mae ymgeiswyr yn cael eu cyfyngu i un grant yr un, ac mewn achosion lle bydd y gwaith yn costio dros £20,000, bydd ganddyn nhw’r opsiwn i wneud cais am gynllun Troi Tai yn Gartrefi Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi hefyd ei bod yn buddsoddi tua £7 miliwn i gefnogi adfywio economaidd, twf busnesau a chreu swyddi mewn ardaloedd dynodedig allweddol ledled Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Mae hyn yn cynnwys Canol Tref Llanelli a Station Road, Canol Tref Rhydaman, Penfro a Hwlffordd, Canol Dinas Abertawe a Treforys.

Bydd Castell-nedd, Port Talbot a Chymoedd Castell-nedd Port Talbot i gyd yn elwa ar y Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio, a fydd yn cael ei defnyddio i wella blaenau siopau a sicrhau bod lle masnachol gwag unwaith eto’n cael ei ddefnyddio ar gyfer busnesau. 

Bydd hefyd yn cefnogi'r gwaith o droi lle masnachol gwag ar loriau uchaf adeiladau'n gartrefi newydd.

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:

Ein canol trefi yw calon ac enaid ein cymunedau ac rydyn ni wedi ymrwymo i'w helpu i dyfu. 

Bydd y gronfa £7 miliwn hon yn helpu i adfywio trefi ac yn helpu busnesau i ffynnu ledled De-orllewin Cymru. Mae ganddi'r potensial i greu swyddi ac rwy'n edrych ymlaen at weld y gwaith yn mynd rhagddo yn yr ardaloedd dynodedig.

Gyda'i gilydd bydd y prosiectau newydd yn dod â thenantiaid busnes a thrigolion newydd i'r ardal – bydd hyn yn cefnogi'r economi leol ac yn creu amgylchedd mwy diogel a chynaliadwy. 

Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o'r ffordd mae'r Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio yn rhoi bywyd newydd i hen adeiladau, gan ddenu cyflogwyr, creu swyddi a gwella golwg y cymunedau.