Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog yn amlinellu ei flaenoriaethau deddfwriaethol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dros 50 o  gyfreithiau Cymreig newydd ar garlam er mwyn delio’n gyflym â phandemig y coronafeirws.

Yn ei ddatganiad deddfwriaethol o’r Senedd yng Nghaerdydd, eglurodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y newid enfawr sydd wedi bod yn adnoddau’r Llywodraeth i leddfu effeithiau niweidiol y coronafeirws.

Mae’r mesurau’n cynnwys y cyfyngiadau symud i ddiogelu pobl a busnesau, diogelu iechyd y cyhoedd a galluogi gwasanaethau cyhoeddus i barhau i weithredu mewn amgylchiadau na welwyd mo’u tebyg erioed o’r blaen.

Mae newidiadau i systemau cynllunio wedi galluogi i ysbytai maes gael eu creu mewn cwta wythnosau ac wedi helpu i barhau i ddarparu gofal iechyd; mae ysgolion a’r system addysg gyfan wedi’u haddasu; ac mae camau wedi’u cymryd i gefnogi pobl a busnesau sy’n ei chael yn anodd talu eu rhent.

Wrth i flaenoriaethau orfod newid yn gyflym, mae’r Prif Weinidog wedi dweud bod penderfyniadau anodd wedi gorfod cael eu gwneud ynghylch pa ddeddfwriaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei chyflwyno yn ystod gweddill y tymor hwn o’r Senedd.

Bydd biliau a rheoliadau yn canolbwyntio ar yr ymateb i’r coronafeirws a’r trefniadau pontio yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r amserlen heriol ar gyfer corff sylweddol o is-ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â’r UE o’n blaenau o hyd gan y bydd y cyfnod pontio yn dod i ben fis Rhagfyr. Mae hyn yn cynnwys gwaith i weithredu cyfundrefnau newydd sy’n cael eu sefydlu gan filiau’r DU a Deddf y Cytundeb Ymadael, ynghyd â’r rhai sy’n deillio o’r trafodaethau â’r UE.

Dyma’r ddeddfwriaeth a fydd yn parhau ochr yn ochr â’r ymateb i’r coronafeirws yn yr hydref:

  • Y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a fydd yn ymestyn yr etholfraint llywodraeth leol i bobl ifanc 16 ac 17 oed erbyn yr etholiadau nesaf.
  • Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf i gefnogi’r trefniadau cwricwlwm ac asesu newydd fel rhan o raglen ehangach i ddiwygio addysg er mwyn codi safonau a chau’r bwlch cyrhaeddiad.
  • Y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), a fydd yn gwella hawliau a sefyllfa tenantiaid yn y sector rhentu preifat.

Mae biliau sydd wedi eu tynnu yn ôl yn cynnwys:

  • Y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) – i barhau i weithio gyda’r sector sydd wedi’i daro’n galed gan y pandemig er mwyn llunio’r dull gweithredu gorau at y dyfodol a hybu adferiad.
  • Mae’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil wedi’i gyhoeddi ar ffurf Bil drafft ar gyfer ymgynghori.
  • Byddwn ni’n mabwysiadu dull tebyg gyda’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn targedu adnoddau er mwyn:

  • Ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu i ardaloedd awyr agored mewn ysbytai, tiroedd ysgolion, a meysydd chwarae awdurdodau lleol
  • Gweithredu’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a’r system anghenion dysgu ychwanegol newydd
  • Rhoi diwedd ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti masnachol
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol i gynyddu nifer y parthau 20mya.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Yng Nghymru rydyn ni wedi mynd ati’n ofalus ac yn bwyllog i ddelio â’r coronafeirws, ond nid yw hynny ar unrhyw gyfrif yn golygu yn araf. Y tu ôl i’r llenni, mae’r Llywodraeth wedi gweithio’n gyflym i ad-drefnu a defnyddio ei hadnoddau mewn ffyrdd newydd, er mwyn achub bywydau a diogelu ein GIG.

“Diolch i aberth aruthrol pobl Cymru wrth ddilyn y ddeddfwriaeth yr ydyn ni wedi’i chyflwyno dros y misoedd diwethaf, mae nifer yr achosion o coronafeirws ar ei isaf yng Nghymru ers dechrau’r argyfwng.

“Wrth roi ein hadnoddau ar waith i ddelio â’r pandemig, bu’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd, ond byddwn ni’n parhau i flaenoriaethu newid blaengar, a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau pobl Cymru.”