Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda chwmni technoleg byd-eang, Thales, i sefydlu canolfan seibr gwerth £20m.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y Ganolfan Datblygu Digidol Genedlaethol (NDEC) fydd y cyfleuster ymchwil a datblygu cyntaf o’i fath yng Nghymru a bydd yn lleoliad perffaith i fusnesau bach a chanolig a micro-fusnesau brofi a datblygu eu cysyniadau digidol.    

Hefyd bydd yn darparu labordy ymchwil lle gall cwmnïau rhyngwladol mawr gyflawni datblygiadau technoleg mawr a bydd yn cysylltu Cymru â chanolfannau technoleg mawr ledled y DU ac yn fyd-eang.  

Nid yn unig bydd y ganolfan seibr yn helpu Cymru i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd byd-eang ym maes trawsnewid digidol, ond hefyd bydd yn meithrin sgiliau a gwybodaeth busnesau er mwyn iddynt ennill cyfran uwch o brosiectau rhanbarthol a chenedlaethol mawr.

Bydd yr NDEC, a fydd yn cael ei lleoli ym Mlaenau Gwent, yn cael ei chyflwyno gan Thales mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru (PDC).  

Bydd y Brifysgol yn gweithredu Athrofa Seibr Uwch yn y Ganolfan, a fydd yn lleoliad ar gyfer ymchwil academaidd arwyddocaol gwerth miliynau o bunnoedd, a bydd hefyd yn gweithredu Canolfan Addysg Ddigidol a fydd yn meithrin sgiliau busnesau bach a chanolig, ysgolion ac unigolion i warchod eu hunain ar-lein.

Yn ogystal â darparu cyfleuster hanfodol ar gyfer busnesau bach a chanolig Cymru ac ymchwil academaidd, bydd yr NDEC hefyd yn gosod Thales, un o gewri’r byd technoleg, yn gadarn yng nghymoedd De Cymru. Bydd y ganolfan yn cael ei rheoli gan dîm bychan ac mae rhai ohonynt wedi’u recriwtio eisoes o’r gymuned leol.

Mae Llywodraeth Cymru a Thales wedi ymrwymo £10m yr un i’r prosiect y mae disgwyl iddo gynhyrchu incwm sylweddol. Mae disgwyl i bob elfen, ar wahân i’r agweddau addysgol ar y ganolfan, fod yn gwbl hunangynhaliol o fewn pum mlynedd.

Wrth gyhoeddi partneriaeth Llywodraeth Cymru gyda Thales, dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

“Rydw i’n hynod falch bod Llywodraeth Cymru’n gweithio mewn partneriaeth â chwmni technoleg byd-eang, Thales, ar ganolfan seibr newydd gwerth £20m a fydd yn cael ei lleoli ym Mlaenau Gwent ac wrth galon prosiect y Cymoedd Technoleg.

Bydd y ganolfan yn helpu i sicrhau bod Cymru’n manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd byd-eang ym maes trawsnewid digidol, yn darparu lleoliad ar gyfer ymchwil arloesol, ac yn rhoi i’n busnesau o bob lliw a llun y sgiliau a’r wybodaeth y mae arnynt eu hangen er mwyn ennill cyfran fwy o brosiectau rhanbarthol a chenedlaethol mawr.

Rydw i’n hyderus y byddwn ni, drwy ein partneriaeth gyda Thales a Phrifysgol De Cymru, yn gweithio i ysgogi a chreu cyflogaeth mewn busnesau technoleg o werth mawr – uchelgais sydd wrth galon prosiect y Cymoedd Technoleg gennym ni.”

Wrth siarad am y cyhoeddiad, dywedodd Gareth Williams, Is Lywydd, Cyfathrebu Diogel a Systemau Gwybodaeth, Thales:

"Rydyn ni’n hynod falch o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Prifysgol De Cymru a Chyngor Blaenau Gwent er mwyn datblygu a chyflwyno’r NDEC. Bydd yn gonglfaen i’n galluoedd seibr ddiogelwch ni yn y DU, gan ddarparu safle profi ar gyfer ein technoleg, yn ogystal â bod yn gatalydd ar gyfer adfywiad yn y rhanbarth.                    

Bydd y cyfleuster hynod dechnegol a hygyrch yma’n ganolfan datblygiad ac addysg seibr a digidol, ac yn gyswllt rhwng De Cymru a chanolfannau technoleg mawr ledled y Deyrnas Unedig.”

Dywedodd yr Athro Julie Lydon, Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru (PDC):

“Mae PDC eisoes yn arbenigwr cydnabyddedig mewn seibr ddiogelwch, gyda’r Academi Seibr Ddiogelwch Genedlaethol (NCSA) gennym yng Nghasnewydd yn gweithio’n agos â busnesau i roi profiad o fywyd real i fyfyrwyr yn y sector.

Mae’r arbenigedd hwn mewn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y diwydiant yn golygu ein bod ni mewn sefyllfa ddelfrydol i gefnogi nod NDEC o ffrwyno ymchwil academaidd ac addysg graddedigion er mwyn datblygu gwybodaeth am y farchnad, gwella gallu technolegol, a datblygu gweithlu medrus yng Nglynebwy ac yn rhanbarth ehangach De Cymru drwy waith addysgol, cyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus a chefnogaeth i fusnesau bach a chanolig.

Bydd y prosiect hwn yn gam arwyddocaol yn y gwaith o greu enw da i’r rhanbarth yn y farchnad fyd-eang sy’n cyson ehangu ar gyfer graddedigion seibr ac arbenigedd ymchwil.”

Mae prosiect y Cymoedd Technoleg yn ymrwymiad allweddol gan y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd De Cymru.