Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cadarnhau bod y trethi Cymreig cyntaf ers bron i 800 mlynedd yn barod i'w gweithredu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O 1 Ebrill 2018, bydd y Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn disodli Treth Dir y Dreth Stamp a'r Dreth Dirlenwi. 

Mewn cyfarfod yng Nghaerdydd heddiw, cytunodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Liz Truss ac Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, yr Athro Mark Drakeford bod Llywodraeth Cymru, Awdurdod Cyllid Cymru a CThEM yn barod i bontio i'r trethi datganoledig newydd, yn dilyn asesiad Swyddogion Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd ar 10 Ionawr.

Dywedodd yr Athro Drakeford:

"Mae datganoli'r trethi hyn yn garreg filltir arwyddocaol i Gymru, yn ein helpu i sicrhau bod Cymru'n genedl fwy teg a thyfu ein heconomi.

"Roedd cyfarfod heddiw hefyd yn gyfle i ystyried y berthynas dda ac adeiladol sydd wedi datblygu wrth fynd ati i ddatganoli'n gyllidol dros y cyfnod hwn. Rwy'n edrych ymlaen at weld hyn yn parhau." 

Dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Liz Truss: 

"Rydyn ni wedi ymrwymo i roi rhagor o gyfrifoldebau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru godi ei chyllid ei hun, a dyna pam y bydd rhagor o bwerau ar dreth incwm yn dilyn y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn rhoi mwy o bwerau i Lywodraeth Cymru lywio economi'r wlad. 

"Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd wedi ymrwymo i gyflawni dros Gymru, fel y dangoswyd gan yr hwb o £1.2 biliwn i Gyllideb Llywodraeth Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'n partneriaeth adeiladol."