Heddiw bydd Lesley Griffiths a Alun Cairns, yn cynnal cyfarfod Brexit allweddol gyda ffermwyr, y diwydiant pysgota a busnesau.
Yn ystod y cyfarfod bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu ei hymrwymiad i hyrwyddo buddiannau’r sectorau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ffynnu ac er mwyn gwarchod ein llwyddiannau amgylcheddol ar ôl ymadael â’r UE ac adeiladu arnynt.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd a'i ddiben fydd trafod y materion ymarferol y mae'r sectorau'n eu hwynebu wrth i ni baratoi i ymadael â’r UE, y gwaith paratoi sy'n digwydd a sut y dylai pwerau a fydd yn dychwelyd o'r UE gael eu harfer yn y dyfodol.
Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Prin flwyddyn sydd i fynd tan y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd heriau ynghyd â chyfleoedd ynghlwm wrth Brexit ac mae hyn yn sicr yn wir yn achos ein heconomi wledig werthfawr. Dyna pam y mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ymwneud â phartneriaid ac yn gwrando arnynt wrth i ni baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
"Bydd cyfarfod heddiw'n gyfle pwysig i ystyried buddiannau Cymru o safbwynt y sectorau hynny ar draws meysydd datganoledig a meysydd nad ydynt wedi'u datganoli. Bydd y trafodaethau hyn yn adeiladu ar y trafodaethau bord gron rheolaidd yr wyf wedi'u cynnal gyda phartneriaid allweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwyf wedi ymrwymo i gydweithio gyda phartneriaid wrth i ni ddatblygu cynigion ar gyfer rheoli tir ar ôl Brexit. Mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau diwydiant cydnerth a ffyniannus yng Nghymru ar ôl i ni ymadael â'r UE."