Cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, y bydd Llywodraeth Cymru'n lansio ymgynghoriad yr wythnos yma ar sut orau i hyrwyddo'r bws fel cyfrwng teithio i bobl ifanc.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Mae'n hanfodol bwysig bod y rheini fydd yn elwa ar gynllun teithio rhatach yn ganolog i unrhyw benderfyniad amdano.
"Pan gyhoeddon ni ym mis Chwefror y byddai'r cynllun fyngherdynteithio yn para, dywedais yn glir y byddem yn ymgynghori'n helaeth ynghylch beth y dylai cynllun o'r fath ei gynnig ac mae'n bleser gen i gyhoeddi ein bod am lansio'r ymgynghoriad ddydd Mawrth.
"Rwyf wedi bod yn neilltuol o awyddus i weld faint o alw sydd i godi oed cynllun teithio i 24 oed, er mwyn inni allu helpu mwy o bobl ifanc i fanteisio ar fysiau i deithio yng Nghymru.
"Ar sail canlyniadau'r ymgynghoriad hwn, caiff cynllun newydd ar gyfer pobl ifanc ei gyflwyno ym mis Ebrill 2018 - cynllun a fydd yn adlewyrchu anghenion a dymuniadau pobl ifanc ac a fydd yn rhoi hwb i deithio ar fws fel opsiwn."
Caiff manylion llawn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru eu cyhoeddi ddydd Mawrth.