Neidio i'r prif gynnwy

Mae’n bosibl y bydd camau’n cael eu cymryd yn erbyn gyrwyr sy’n parcio ar y palmant heb hidio am ddiogelwch cerddwyr neu feicwyr, yn ôl yr hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Lee Waters, heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad mewn cynhadledd ar Deithio Llesol yng Nghaerdydd heddiw (Gorffennaf 4), cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn tynnu ynghyd grŵp o arbenigwyr i edrych ar ffyrdd mwy effeithiol o atal parcio anghyfreithlon, ac atal pobl rhag parcio ar y palmant.

Hefyd, unwaith yn rhagor, pwysleisiodd y Dirprwy Weinidog ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau’r terfyn cyflymder, sy’n cael ei osod fel mater o reol mewn ardaloedd preswyl, o 30 i 20 milltir yr awr, ar draws Cymru.

Dywedodd:

“Ein nod yw sicrhau bod pobl o bob oed a gallu yn teimlo ei bod yn ddiogel iddynt gerdded neu feicio wrth wneud teithiau bob dydd. Ond mae yna ffactorau yn ein pentrefi, trefi, a dinasoedd sy’n gallu gwneud eu teithiau’n fwy peryglus, a rhaid inni edrych ar sut i fynd i’r afael â’r ffactorau hynny – gan gofio bod hyn hefyd yn rhan bwysig o’n hymateb ehangach i’r argyfwng hinsawdd, yr argyfwng ansawdd aer, a’r epidemig gordewdra.

“Mae’n rhaid inni newid ein ffordd o feddwl a’r ffordd yr ydym ni’n gwneud pethau - gan ddatrys y problemau sy’n troi pobl i ffwrdd oddi wrth deithio llesol, er mwyn ei wneud mor ddeniadol â phosibl i bawb, yn enwedig yn y lleoedd hynny lle mae llawer o bobl yn byw. Mae’r Gronfa Teithio Llesol wedi neilltuo buddsoddiad sylweddol penodol ar gyfer hyn, i greu seilwaith cerdded a beicio o ansawdd da am y tro cyntaf, gyda dros £30m wedi ei neilltuo ar gyfer cynlluniau teithio llesol eleni. Serch hyn, rhaid i’r camau yr ydym yn eu cymryd yn y maes hwn fod yn rhan o weledigaeth ehangach, ac mae’n bwysig cymryd camau gwella lle bynnag a phryd bynnag y gallant wneud gwahaniaeth.

“Dyma’r rheswm pam dw i wedi gofyn i grŵp o arbenigwyr edrych ar sut y gallwn fynd i’r afael ag un rhwystr amlwg, sef parcio ar y palmant a pharcio anghyfreithlon. Rydym yn gwybod bod y broblem hon yn codi’n aml y tu allan i ysgolion yng Nghymru. Bydd amcanion y grŵp hwn, ochr yn ochr ag amcanion y grŵp gorchwyl a gaiff ei sefydlu cyn bo hir i roi cyngor ar newid y terfyn cyflymder o 30 i 20 milltir yr awr, yn bethau ymarferol y mae’n rhaid i ni fel Llywodraeth arwain arnynt os ydym o ddifrif ynghylch sicrhau ei bod yn fwy diogel i gerdded a beicio.

“Nid cosbi defnyddwyr ceir yw’r nod fan hyn, ond yn hytrach wella’r cydbwysedd yn y modd yr ydym yn diwallu anghenion gwahanol deithwyr yn ein hamgylchedd trefol. Mae yna dystiolaeth bod teithio llesol yn dod â llu o fanteision, ac rydym ni yma yng Nghymru mewn sefyllfa i wneud rhywbeth pendant a chadarnhaol i sicrhau bod teithio llesol ar gael fel dewis amlwg i bobl o bob oed. Dyma’n union yr hyn dw i’n bwriadu ei gyflawni.