Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol  y bydd Llywodraeth Cymru yn hybu ôl-osod systemau chwistrellu mewn adeiladau uchel.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwnaeth y Gweinidog y cyhoeddiad yn sgil cyhoeddi cyngor y grŵp arbenigwyr ar wella diolgelwch rhag tanau mewn adeiladau uchel. Bydd Llywodraeth Cymru'n ymateb yn llawnach i argymhelliad y grŵp maes o law, ond yn y cyfamser, cadarnhaodd y Gweinidog y bydd yn derbyn yr argymhelliad i hybu ôl-osod systemau chwistrellu. 
 
Dywedodd y Gweinidog:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i wneud pobl yn fwy diogel yn eu cartrefi. Mae gennym hanes cryf o wneud hynny. Ers datganoli'r cyfrifoldeb am danau yn 2005, mae nifer y tanau mewn aneddau wedi syrthio'n gynt ac ymhellach yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o'r DU.

Wedi dweud hynny, ni allwn ac ni wnawn laesu dwylo. Mae llawer o dystiolaeth wedi dod i'r fei yn dilyn y tân trychinebus a'r gwendidau yn nhŵr Grenfell. Mewn ymateb i hyn, sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp arbenigol y llynedd. Mae hwn wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o argymell y ffordd ymlaen ac mae'n bleser gennyf gyhoeddi ei gyngor ar gyfer gwella diogelwch rhag tanau mewn adeiladau uchel yr wythnos hon. 

Hoffwn ddiolch i aelodau'r grŵp am eu hamser ac am ystyried amrywiaeth o faterion anodd yn ofalus ac yn fywiog. Byddaf yn pwyso a mesur argymhellion y grŵp, ond mae un argymhelliad y byddaf yn ei dderbyn nawr, sef y dylem hybu ôl-osod systemau chwistrellu. Mae tystiolaeth gadarn ynghylch effeithiolrwydd systemau chwistrellu o ran atal marwolaethau, felly rydw i wedi ymrwymo i edrych ar sut y gallwn hybu mwy ar eu hôl-osod mewn adeiladau uchel ar draws sectorau.

Cyhoeddir ymateb llawn i'r cyngor ym mis Mai, gan gynnwys cynllun prosiect eglur sy'n gosod blaenoriaethau ac amserlenni ar gyfer y camau nesaf.  

Ychwanegodd y Gweinidog:

Byddwn yn parhau i ychwanegu at ein hanes cryf yn y maes. Lle bo hynny'n bosibl ac yn briodol, byddwn yn bwrw ymlaen â chamau ar unwaith neu yn y tymor byr, ond bydd angen dadansoddiad ac ystyriaeth fwy manwl ar gyfer rhai materion. Mewn rhai achosion bydd angen newid y ddeddfwriaeth. Mae'n gywir, ac yn anochel y bydd hyn yn cymryd amser. Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud hyn yn gywir er mwyn cadw ein trigolion yn ddiogel yn eu cartrefi.