Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru'n neilltuo £6 miliwn arall i helpu busnesau i ddygymod â'r aflonyddwch a'r ansicrwydd sy'n cael eu hachosi gan Brexit, meddai Gweinidog yr Economi, Ken Skates.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gyda'r ansicrwydd ynghylch pryd ac os y bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn yr estyniad diweddar tan 31 Ionawr 2020, mae Llywodraeth Cymru unwaith eto am helpu busnesau yn y cyfnod anodd hwn.

Mae Llywodraeth Cymru am barhau i baratoi ar gyfer ymadael â'r UE gyda a heb gytundeb, er mwyn diogelu buddiannau Cymru a'i phobl.

Mae'r arian hwn yn adeiladu ar lwyddiant Cronfa Grant Cydnerthedd Busnes Brexit a ddarparwyd gan Busnes Cymru, ac a neilltuodd bron £2.5m o arian ychwanegol i 51 o fusnesau ledled Cymru.

Mae'r £6 miliwn sy'n cael ei neilltuo nawr i fusnesau'n cynnwys £5m o fenthyciadau trwy Fanc Datblygu Cymru i gefnogi busnesau sydd am gynnal prosiectau buddsoddi cyfalaf i leihau effeithiau Brexit.

Bydd cronfa grant cyfalaf o £1m sy'n cael ei gweinyddu gan Busnes Cymru ar gael law yn llaw â benthyciad y Banc Datblygu.

Mae'r cynnig cyfunol hwn yn golygu bod busnesau'n cael gwneud cais am grant o hyd at 20% o gostau cymwys prosiect, hyd at £50,000. Bydd y benthyciad yn werth yr un faint neu fwy.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi:

"Mae'r strach y mae'r wlad yn ei chael ei hun ynddo yn deillio o'r ffordd ddi-glem y mae Llywodraeth y DU wedi delio â Brexit, gan adael busnesau yng Nghymru i orfod wynebu ansicrwydd a phryder.

"Yn fy nghyfarfod diweddar ag Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y DU, dywedais wrtho eto am ein pryderon am effaith y cynigion diweddaraf ar gyfer Brexit ar ddyfodol economi Cymru, a'n bod yn ofni y byddent yn niweidio'r argoelion ar gyfer yr economi gan fygwth swyddi yng Nghymru.

"Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i helpu busnesau i ddelio â senario heb gytundeb a senario â chytundeb. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddiogelu buddiannau Cymru a'i phobl ac mae cyhoeddiad heddiw'n enghraifft ragorol arall o'r camau pwysig rydyn ni'n eu cymryd ar adeg o ansicrwydd mawr.

"Mae ein Cronfa Grant Cydnerthedd Busnes Brexit eisoes wedi helpu busnesau i baratoi ar gyfer Brexit ac mae'r £6m ychwanegol hwn yn dangos ein hymrwymiad i fusnesau yng Nghymru.

Dywedodd Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru, Giles Thorley:

"Bydd yr arian ychwanegol hwn gan Lywodraeth Cymru yn helpu busnesau gyda'u paratoadau dros y cyfnod hwn o ansicrwydd economaidd.

"Mae'r Banc Datblygu wedi ymrwymo i helpu busnesau Cymru ac mae'r arian newydd hwn yn hwb bwysig i ficro-fusnesau a busnesau bach a chanolig fydd yn teimlo effeithiau Brexit.

“Bydd y benthyciadau newydd yn helpu i ddiogelu swyddi ac yn helpu busnesau i barhau â'u gweithgarwch ledled Cymru.

Yn unol â Chynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr Economi, bydd gofyn i fusnesau sydd am wneud cais am arian Cronfa Cydnerthedd Brexit ddangos eu hymrwymiad i dwf cynhwysol a gwaith teg ac i hyrwyddo iechyd yn y gweithle a lleihau'u hôl troed carbon.

Mae proses ymgeisio gyfunol wedi'i chreu, gyda busnesau'n cael llenwi un cais ar gyfer benthyciad y Banc datblygu a grant Busnes Cymru.

Bydd yn rhaid i fusnesau brofi bod angen cyllid sector cyhoeddus arnyn nhw i allu cynnal eu prosiect Brexit.

I ddysgu mwy ac i weld a allai'u prosiect fod yn gymwys, dylai busnesau fynd i Borthol Brexit Busnes Cymru, gwefan Banc Datblygu Cymru neu ffonio Busnes Cymru ar 0300 060 3000.