Neidio i'r prif gynnwy

Bydd rhaid i fusnesau yng Nghymru gynnal asesiad risg penodol y coronafeirws o dan ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr asesiadau risg hyn yn fan cychwyn ar gyfer gweithredu’r mesurau rhesymol sy’n ofynnol er mwyn lleihau’r cyswllt â’r coronafeirws mewn eiddo sy’n agored i’r cyhoedd ac mewn gweithleoedd.
Mae hyn yn cynnwys ystyried materion fel:

  • a yw’r awyru'n ddigonol
  • hylendid
  • sicrhau bod cadw pellter corfforol yn digwydd
  • defnyddio cyfarpar diogelu personol a gorchuddion wyneb.

Bydd hefyd yn cynnwys ystyried sut mae cyflogwyr yn sicrhau bod cymaint â phosibl o bobl yn gallu gweithio o gartref.
Mae'r straen newydd heintus iawn o'r feirws yn golygu ein bod wedi gorfod edrych eto ar y rheolau sy'n rheoleiddio gweithleoedd ac eiddo sy’n parhau ar agor i’r cyhoedd.

Yn ystod ei gynhadledd wythnosol i'r wasg, bydd y Prif Weinidog yn diolch i fusnesau am eu holl ymdrechion i sicrhau bod eu hadeiladau'n ddiogel i weithio ynddynt ac ymweld â hwy.

Meddai Mark Drakeford:

“Rhaid adolygu a diweddaru’r asesiadau risg yn rheolaidd, pan fydd amgylchiadau'n newid ac rwyf eisiau nodi’n glir yn y gyfraith bod hyn yn cynnwys pan fydd lefelau Rhybudd y coronafeirws yn newid yng Nghymru.

“Dim ond y rhai sy'n cyflogi pump neu mwy o bobl fydd yn gorfod cofnodi'r asesiad risg. Rydym yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr, undebau llafur, Awdurdodau Lleol a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch i ystyried y manylion am sut i gadw lleoliadau gwaith yn ddiogel.

“Hefyd mae Gweinidogion wedi cyfarfod yr wythnos hon gyda manwerthwyr allweddol i drafod eu rôl hanfodol yn ystod y pandemig. Maent yn nodi'r camau maent yn eu cymryd, o ddarparu diheintyddion ar gyfer dwylo a throlïau wrth fynd i mewn i siopau; cyfyngu ar y niferoedd yn y siop ar unrhyw un adeg; a gwneud cyhoeddiadau rheolaidd yn atgoffa pobl i gadw pellter oddi wrth bobl eraill.

“Byddwn yn cryfhau’r rheoliadau i sicrhau bod manwerthwyr yn cymryd y camau hyn fel bod eu heiddo mor ddiogel â phosibl i siopwyr a hefyd i’w cyflogeion. Mae llawer eisoes yn gweithredu safonau uchel ac mae angen i ni godi'r safon ar gyfer y rhai a allai ac a ddylai wella.

“Fodd bynnag, mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb allweddol i helpu i wneud siopau mor ddiogel â phosibl. Rhaid i bob un ohonom ni siopa ar ein pen ein hunain os gallwn ni, cadw at y rheol 2m, ymarfer hylendid dwylo da a gwisgo gorchudd wyneb oni bai eich bod wedi'ch eithrio. Ni fydd unrhyw sarhad a gyfeirir at gyflogeion siopau sy’n atgoffa pobl o’u cyfrifoldebau’n cael ei oddef.”