Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, wedi cyhoeddi £4.075 miliwn o arian newydd i adleoli Ysgol Gynradd Brynmenyn.
Bydd lle yn yr ysgol newydd ar gyfer mwy o ddisgyblion a bydd yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer 60 o blant yn y dosbarth meithrin. Adeiladwyd yr ysgol wreiddiol ym 1913 ac nid oes ganddi gae chwarae. Bydd y prosiect yn costio cyfanswm o £8.15 miliwn a bydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu'r gweddill.
Ar hyn o bryd, mae 172 o ddisgyblion yn yr ysgol a 29 o blant yn y dosbarth meithrin.
Mae'r buddsoddiad yn rhan o Raglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif sy'n werth £1.4 biliwn. Nod y rhaglen hon yw diweddaru adeiladau ysgolion ledled Cymru.
Mae buddsoddiad gwerth tua £50 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr drwy'r Rhaglen Gyfalaf, a Llywodraeth Cymru fydd yn darparu hanner o’r cyllid hwnnw.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Rwy'n falch iawn o gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £4 miliwn yn Ysgol Gynradd Brynmenyn. Bydd hyn yn caniatáu i’r ysgol symud i adeilad newydd a gwell gan ddyblu nifer y lleoedd meithrin. Bydd yr ysgol newydd yn fwy na'r ysgol bresennol sy’n golygu y gall ateb y galw am leoedd wrth i boblogaeth yr ardal ffynnu.
“Byddwn yn parhau i godi safonau ysgolion a buddsoddi yn adeiladau ein hysgolion i greu'r amgylchedd gorau posibl i'n plant.”