Neidio i'r prif gynnwy

Mae buddsoddi mewn cerbydau allyriadau isel a chreu system drafnidiaeth mwy cadarn ymysg y mentrau sy’n elwa o dros £74 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru i ddarparu trafnidiaeth gwell, mwy cyfeillgar i’r amgylchedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid, sydd wedi’i gyhoeddi yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, yn datblygu ymdrechion Cymru tuag at rwydwaith trafnidiaeth glân a gwyrdd ac yn helpu i fynd i’r afael â heriau yy newid yn yr hinsawdd.

Mae cyllideb 2020-21 y cyntaf ers datgan argyfwng  hinsawdd yng Nghymru. Mae’r ymrwymiadau gwariant yn cynnwys:

  • £29 miliwn i newid i gerbydau allyriadau isel: cyfrannu tuag at nod Llywodraeth Cymru o fflyd bws a thacsis/cerbydau hurio preifat allyriadau sero erbyn 2028, a chymorth ar gyfer gwella seilwaith gan gynnwys pwyntiau gwefru. Bydd yn help i sicrhau bod datgarboneiddio trafnidiaeth ar gael i bawb, nid y rhai hynny sy’n gallu fforddio car trydan yn unig.
  • £25 miliwn ar gyfer system ffyrdd mwy cadarn: helpu i ddiogelu seilwaith sydd mewn perygl o lifogydd ac effeithiau eraill y newid yn yr hinsawdd. Bydd yn gwella perfformiad ein rhwydwaith ffyrdd gan arwain at ei wneud yn fwy dibynadwy i bob defnyddiwr.
  • £20 miliwn ar gyfer Metro Gogledd Cymru: parhau I fuddsoddi mewn system drafnidiaeth integredig, fodern ac effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys llwybrau beicio, gwasanaethau bws a thrên.

Bydd datgarboneiddio trafnidiaeth yn thema allweddol ar gyfer strategaeth drafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru, a gaiff ei chyhoeddi tuag at ddiwedd 2020.

Meddai Ken Skates, Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru:  

Rydym am ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth modern a chysylltiedig sy’n hwyluso newid moddol gwirioneddol, ac yn cyflawni ein hamcanion o wella ansawdd yr aer a lleihau allyriadau carbon.    

Mae mynd i’r a fael â’r argyfwng hinsawdd yn galw am newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn teithio.  Bydd buddsoddi yn y mentrau hyn yn sicrhau bod Cymru yn mynd yn nes at lunio rhwydwaith trafnidiaeth mwy cadarn, glanach a gwyrddach.  

Trwy wella ein seilwaith gwyrdd gallwn ei wneud yn haws i bobl deithio mewn dulliau mwy cyfeillgar i’r amgylchedd.  Daw law yn llaw â gwelliannau i wasanaethau fydd yn cynnig cysylltiadau gwell i bobl, cymunedau a busnesau.