Neidio i'r prif gynnwy

Yn ei araith yng Nghynhadledd Flynyddol Pwyllgorau Meddygol Lleol Cymru, bydd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething yn cyhoeddi newidiadau i gytundebau meddygon teulu yn 2017/18.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r diwygiadau hyn yn golygu y bydd cynnydd o tua £27m i’r buddsoddiad yn y gwasanaeth meddygol cyffredinol. 
Mae'r buddsoddiad hwn yn cynnwys cynnydd o 2.7% i dâl a threuliau meddygon teulu ar gyfer 2017/18, sy'n cynnwys: 

  • codiad cyflog o 1%;
  • cynnydd o 1.4% ar gyfer treuliau cyffredinol mewn perthynas â chostau practis;
  • cyfraniad tuag at gostau cynyddol yswiriant indemniad proffesiynol; 
  • cyfraniad tuag at y gost uwch o weinyddu pensiynau; 
  • cynnydd yn y cyllid ar gyfer absenoldeb mamolaeth, rhiant a salwch;
  • cyfraniad tuag at yr ardoll gwella busnes.  
Mae’r buddsoddiad hefyd yn darparu ar gyfer gwasanaethau estynedig i gartrefi gofal, wrth reoli warfarin, diabetes a rhoi profion gwaed. Bydd y meddygfeydd yn cynnig:
  • gwasanaeth estynedig i'r 22,700 o breswylwyr cartrefi gofal a nyrsio yng Nghymru, gyda'r nod o leihau'r amrywiad yn eu gofal.
  • gwasanaeth diabetes lleol estynedig gan bob meddygfa, sy'n darparu pecyn gofal mwy cynhwysfawr i gleifion ledled Cymru.
  • bydd holl feddygon teulu Cymru’n cynnig gwasanaeth rheoli Warfarin newydd, gan fodloni canllawiau NICE a sicrhau bod hyn yn digwydd yn yr un practis ag y mae materion iechyd eraill a newidiadau i bresgripsiynau’n cael eu trafod.
  • adnodd er mwyn mynd i’r afael â’r llwyth gwaith sy’n gysylltiedig ag ymdrin â cheisiadau sy’n ymwneud â gwaed o’r tu allan i’r practis.

Yn ogystal â hyn, mae Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, Llywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd wedi cytuno i gydweithio yn 2017/18 i foderneiddio'r contract er mwyn diwallu anghenion y cyhoedd a'r meddygon teulu eu hunain yn well. Mae hyn yn cynnwys:

  • gwella mynediad at wasanaethau 
  • lleihau unrhyw fiwrocratiaeth diangen a gwella'r ffyrdd o fonitro ansawdd y gofal
  • mynd i'r afael â chost gynyddol yswiriant indemniad proffesiynol meddygon teulu 
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

"Mae ein hagwedd gydweithredol i ymateb i'r her o ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel yn ein gwneud yn unigryw yma yng Nghymru.  

"Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr sy'n feddygon teulu i gynnig atebion fydd yn arwain at roi’r gofal gorau i gleifion. Dw i'n hyderus mai'r dull hwn o weithio mewn partneriaeth yw'r ffordd orau ymlaen wrth inni barhau i drawsnewid gofal sylfaenol yng Nghymru. Mae'n rhoi sail gadarn i feddygon teulu allu parhau i ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel mewn ffordd gynaliadwy."

Dywedodd Dr Charlotte Jones, Cadeirydd Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru: 

“Mae’r Pwyllgor yn croesawu’r dull cydweithredol hwn sy’n cael ei arddel gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu meddygon teulu Cymru. Dw i’n sicr y bydd gweithredu fel hyn yn arwain at y canlyniadau gorau i’r meddygon teulu a’r cleifion.

“Mae’r newidiadau a gyhoeddwyd heddiw yn rhan o waith mwy hirdymor i adolygu’r cytundeb cyfan a sicrhau ei fod yn addas at y dyfodol.

“Mae’r Pwyllgor yn edrych ymlaen at fod yn rhan o drafodaethau pellach dros y misoedd nesaf.

“Ar ben hyn, ry’n ni’n croesawu’r buddsoddiad cyson i’r clystyrau, y £40m a gyhoeddwyd yn ddiweddar i ddatblygu safleoedd a’r £95m ar gyfer hyfforddi gweithwyr gofal iechyd i gefnogi gofal sylfaenol. Mae’r arian hwn yn mynd law yn llaw â chyhoeddiad heddiw, gan rannu’r un nod cyffredin o gryfhau’r ddarpariaeth o ofal sylfaenol.”