Dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i geisio annog busnesau o Gymru i beidio â defnyddio olew palmwydd sy'n ddrwg i'r amgylchedd yn eu cynnyrch a'u prosesau gweithgynhyrchu.
Dyma'r neges gan Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates, a ddywedodd ei fod am ddilyn esiampl Greenpeace a'r siop fwyd Iceland, drwy gymryd safiad yn erbyn defnyddio olew palmwydd sy'n ddrwg i'r amgylchedd, cynhwysyn sy'n dod yn fwyfwy amlwg oherwydd y difrod y mae'n ei achosi i fywyd gwyllt a'r amgylchedd yn ehangach.
Mae Ysgrifennydd yr Economi am i gwmnïau sy'n gweithredu yng Nghymru roi'r gorau i ddefnyddio olew palmwydd drwg i'r amgylchedd, sydd wedi ei gysylltu'n gyffredinol â phroblemau megis datgoedwigo, difrodi cynefinoedd, newid hinsawdd, creulondeb i anifeiliaid a chamddefnyddio hawliau cynhenid.
Er mwyn datblygu hyn mae am wneud newidiadau i Gontract Economaidd Llywodraeth Cymru - elfen allweddol o'r Cynllun Gweithredu Economaidd - sy'n ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sy'n ceisio cymorth gan Lywodraeth Cymru fynd i gytundeb gyda Llywodraeth Cymru sydd wedi'i gynllunio'n benodol i sbarduno ymddygiad busnes cyfrifol.
Meddai Ken Skates:
"Mae'r difrodi sy'n cael ei achosi gan ddefnyddio olew palmwydd mewn ffordd sy'n gwneud drwg i'r amgylchedd yn amlwg yn y newyddion ar hyn o bryd, a hoffwn dalu teyrnged i'r archfarchnad Iceland, Greenpeace ac eraill am eu gwaith yn codi proffil y mater pwysig hwn.
"Mae'r ymgyrch yn erbyn defnyddio olew palmwydd sy'n ddrwg i'r amgylchedd yn cyd-fynd ag ethos fy Nghynllun Gweithredu Economaidd, ac mae sbarduno twf cynaliadwy ac annog busnesau i ymddwyn yn gyfrifol yn greiddiol iddo.
"Mae blwyddyn wedi pasio bellach ers imi lansio'r Cynllun Gweithredu Economaidd, ac rwyf wedi fy nghalonogi gan yr ymateb positif y mae wedi'i gael gan y gymuned fusnes. Yn wir, o ganlyniad i'r Cynllun Gweithredu, mae gennym bellach 100 o Gontractau Economaidd wedi'u sefydlu gyda chwmnïau ledled y byd sy'n chwilio am ein cefnogaeth.
"Mae'r Contract Economaidd yn ddull amlwg o ddylanwadu ar ymddygiad busnesau ac annog ymddygiad cyfrifol. O gofio hynny, rwyf wedi gofyn i'm swyddogion edrych ar sut y gallwn ddefnyddio'r Contract Economaidd i annog a help cwmnïau i roi'r gorau i ddefnyddio olew palmwydd sy'n ddrwg i'r amgylchedd, a helpu i leihau y defnydd o'r cynnyrch niweidiol hwn sy'n peri'r fath ddifrod.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried sut y gall leihau'r defnydd o olew palmwydd sy'n ddrwg i'r amgylchedd mewn bwyd a diod sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
"Mae effaith olew palmwydd sy'n cael ei gynhyrchu mewn modd anghynaladwy yn dod yn fater y mae'r cyhoedd yn ymwybodol iawn ohono. Mae'r llywodraeth a'r Diwydiant Bwyd a Diod wedi ymrwymo i hyrwyddo cynaliadwyedd. Rydym am annog y diwydiant bwyd a diod i ddefnyddio olew palmwydd sydd wedi'i gaffael yn gynaliadwy, a bydd hyn yn amlwg yn ein hymgynghoriad ar y cyd yn ystod gwanwyn 2019 ar olynydd i'r cynllun gweithredu bwyd a diod."